Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 30 Mawrth 2022.
Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â phawb yr ymgynghorodd y pwyllgor â hwy i allu llunio'r adroddiad hwn. Fel Aelod o'r pwyllgor, roeddwn eisiau dweud pa mor hanfodol yw hi ein bod, fel cymdeithas, yn blaenoriaethu gofal plant ac yn sicrhau nad oes neb yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol neu benderfyniadau cyflogaeth yn seiliedig ar oblygiadau system gofal plant anghyfartal.
Rhaid imi ddatgan hefyd fy mod yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ymestyn mynediad at ofal plant i blant tair a phedair oed i rieni mewn addysg a hyfforddiant, yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu, ac edrychaf ymlaen at symud ymlaen ar y cytundeb cydweithio, sy'n mynd i ddarparu gofal plant i blant dwyflwydd oed. Ond ni allwn ddianc rhag y ffaith ei bod yn hen bryd i hyn ddigwydd. I lawer o rieni, mamau yn aml, myfyrwyr, rhai ar incwm isel, rhai mewn swyddi ansicr, gofal plant yn aml yw'r un mater mwyaf sy'n llywio eu penderfyniadau ar sut i symud ymlaen gyda'u cyflogaeth, a'r dewisiadau bywyd a wnânt. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn cydnabod hyn. Mae etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â mi'n aml gyda straeon gan rieni nad ydynt yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, sydd wedi teimlo'n gaeth gyda'r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, ac fel a nododd fy nghyd-Aelodau, fod yn rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal plant yn cael ei chyfathrebu i rieni yn yr un modd ag y mae gwasanaethau eraill.
Mae hyn yn fy arwain at argymhelliad arall, ar lenwi'r bwlch rhwng diwedd cyfnod mamolaeth a'r cynnig gofal plant presennol. Mae Chwarae Teg, Ymchwil Arad a'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod wedi dod â'r profiadau hyn i galon ein hadroddiad, yn ogystal ag ymgysylltu'n uniongyrchol â darparwyr gofal plant. Y realiti ariannol i lawer o rieni yw eu bod yn gorfod cwtogi ar waith am na allant fforddio gofal plant, neu weithio i ariannu lleoliad eu plentyn mewn feithrinfa. Rydym wedi bod yn sôn am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, y DU a'r byd gorllewinol ers dros 50 mlynedd. Yn aml, caiff ei drafod fel pe bai gofal plant cyffredinol yn rhyw fath o baradwys, rhywbeth na ellir byth ei gyflawni, ond nid yw hyn yn wir. Rhaid i Gymru weithredu i sicrhau bod gofal plant yn wasanaeth sydd yr un mor hygyrch i bawb. Mae Asiantaeth Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Sweden yn dangos, os ydym o ddifrif am sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â sefydlu pileri'r system honno. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau gan y Gweinidog am eu safbwyntiau ar beth yw ein nod yn y pen draw, a sut y gallwn gyrraedd y nod hwnnw, a'u barn ar y gofal plant am ddim i bawb fel y nododd Sioned Williams a'r dull unedig a nodwyd gan Huw Irranca-Davies.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad drwy dynnu sylw at un argymhelliad olaf a nodwyd yn yr adroddiad, sef argymhelliad ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal plant. Roedd ein gweithwyr proffesiynol gofal plant ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac maent yn gorfod wynebu gwaith ansicr a chyflog isel. Ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod cynnydd yn nifer yr achosion o COVID yn ein cymunedau; mae'r meithrinfeydd yn cael eu taro'n galed gan hyn, gyda chymaint o blant yn gorfod aros gartref. Euthum i ymweld â chanolfan blant Corneli yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, ac nid oedd 10 o blant yn bresennol oherwydd COVID. Roeddwn hefyd eisiau dweud bod ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu, a'r gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau datblygiad a hapusrwydd cenedlaethau'r dyfodol, yn rhagorol. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu gyda gwaith diogel, cydnabyddiaeth gyrfa a chyflog teg. Diolch.