6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:42, 30 Mawrth 2022

Diolch am y cyfle i wneud ychydig o sylwadau yn y ddadl yma, a na, dydyn ni ddim wedi cynnig gwelliannau, oherwydd mae yna set o egwyddorion yn fan hyn dwi'n siŵr y gallem ni i gyd eu cefnogi. Mae fferylliaeth wrth galon ein gwasanaethau iechyd ni. Mae'n gorfod bod, ond nid felly mae hi wastad wedi cael ei weld. Yn rhy aml, dwi'n meddwl bod fferylliaeth, a fferylliaeth gymunedol yn arbennig, wedi cael ei gweld fel rhywbeth ymylol. Pwysig, wrth gwrs, ond yno o bosib i gefnogi'r prif wasanaethau iechyd yn hytrach na bod yn rhan greiddiol o'r gwasanaethau hynny. A rydyn ni'n mynd drwy broses o fynnu newid diwylliant ar hyn o bryd, dwi'n credu, o ran sut mae pobl yn ymgysylltu â'u gwasanaethau iechyd nhw, ac mae o'n rhywbeth dwi wirioneddol yn credu yn angerddol ynddo fo. Ac mae'n rhaid inni lwyddo i newid y diwylliant yma, ni i gyd fel unigolion a chymdeithas drwyddi draw, os ydyn ni am greu gwasanaeth iechyd sydd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ac un o'r newidiadau ydy mynd drwy'r swits yma o bobl yn teimlo eu bod nhw angen gweld doctor. Mae llawer o bobl yn gorfod gweld doctor, ond bod pobl yn mynd o'r meddylfryd hwnnw yn hytrach i, 'Sut gallaf i gael y gofal iechyd mwyaf priodol i fi neu fy nheulu?' Ac mae dyrchafu rôl y fferyllydd, ein fferyllfeydd ni o fewn ein cymunedau ni, a galluogi pobl i droi at fferyllydd yn gyntaf efo mwy a mwy o anhwylderau yn rhan allweddol o hynny.

Ac mae'r ffaith bod gennym ni y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol cenedlaethol newydd yn dod i rym yr wythnos yma yn rhywbeth dwi'n ei groesawu yn fawr.  Mae gennym ni fframwaith rŵan sydd yn mynd i, gobeithio, wthio'r agenda yma yn ei blaen, gwthio'r newid diwylliant, ond mae yna lawer mwy, wrth gwrs, sydd angen ei wneud, ac un o'r pethau sydd angen eu gweld yn digwydd rŵan ydy mwy fyth o addysgu pobl—ni i gyd yn eu plith nhw—ynglŷn â sut i newid y ffordd rydyn ni'n meddwl am ein gwasanaethau iechyd ni. Mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi yn y cynlluniau cyfathrebu o gwmpas y newid sy'n dod i rym yr wythnos yma, ond dwi'n credu bod yna lawer mwy y gellir ei wneud hefyd.

Ac mae'n rhaid mynd drwy nifer o gamau hefyd, er mwyn cyd-fynd â chyflwyno'r newidiadau'r wythnos yma a sicrhau go iawn fod fferylliaeth wrth galon pob clwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru, sicrhau ein bod ni rŵan yn delifro'r newidiadau digidol y mae fferylliaeth a gofal sylfaenol eu hangen. Dwi'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ddigidol, ac yn ein cyfarfod ni amser cinio heddiw, iechyd a gofal oedd ein testun ni, ac mae yna awch rŵan i allu sicrhau bod ein gwasanaethau ni, yn cynnwys fferylliaeth, yn gallu defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Does yna ddim synnwyr yn yr unfed ganrif ar hugain, chwarter ffordd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, fod yna gymaint o ddarnau o bapur presgripsiynau yn dal yn hedfan o gwmpas yr NHS yng Nghymru. Mae o'n rhywbeth dwi'n cywilyddio ynddo fo, mae'n rhaid i fi ddweud, a dwi'n meddwl bod y Gweinidog hefyd.

Ac un o'r ffactorau eraill mae'n rhaid eu gwneud, ac mae'r cynnig heddiw yn adlewyrchu hynny, ydy'r buddsoddi sydd ei angen yn y gweithlu. Mae'r arolwg lles mae'r cynnig yn cyfeirio ato fo yn bryderus tu hwnt ynglŷn â'r gwendidau sydd yna o fewn y gweithlu ar hyn o bryd. Mae'n rhaid buddsoddi yn y gweithlu hwnnw. Mae'n rhaid inni, fel ydyn ni'n cael coleg meddygol newydd yng Nghymru, gael ysgol fferylliaeth newydd yng Nghymru hefyd er mwyn sicrhau'r llif o bobl drwy'r system sydd yn mynd i fod yn rhan mor ganolog o fferylliaeth wrth galon gofal sylfaenol yng Nghymru.