Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 30 Mawrth 2022.
Byddwn yn sicr yn cytuno â hynny fel awgrym. Hoffwn feddwl am ein holl weithwyr iechyd a gofal fel prentisiaid cyflogedig mewn rhyw ffordd, yn dysgu crefft y byddant yn gallu ei defnyddio, boed hynny fel meddyg neu weithiwr gofal neu fferyllydd o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’n rhaid inni fod yn arloesol yn y ffordd y ceisiwn gryfhau ein gweithlu.