6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogi fferyllwyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:48, 30 Mawrth 2022

Dwi'n gallu gweld bod yr amser wedi fy nghuro fi. Mae'n dda gweld cytundeb ar hwn heddiw, ond un peth ydy cael cytundeb ar set o egwyddorion, peth arall ydy gweld y Llywodraeth yn delifro ar y pethau hynny sydd wir yn mynd i wneud fferylliaeth yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y blynyddoedd i ddod.