Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae'n bleser cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl fferyllwyr cymunedol am y gwaith anhygoel a wnaethant ac y maent yn parhau i'w wneud yn ystod y pandemig a thu hwnt. Gwaethygodd dyfodiad COVID ar y glannau hyn y problemau sydd wedi bod yn wynebu gofal sylfaenol ers blynyddoedd. Yn syml, nid ydym wedi bod yn hyfforddi digon o feddygon teulu i ddiwallu anghenion iechyd a gofal Cymru. Diolch byth, mae fferyllwyr wedi gallu llenwi'r bwlch a thynnu pwysau nid yn unig oddi ar ofal sylfaenol ond gofal eilaidd hefyd, ac mae fferyllwyr ledled Cymru yn gallu ymdrin ag anhwylderau cyffredin ac ymholiadau am feddyginiaeth bresgripsiwn. A diolch i'r ymgyrch Dewis Doeth, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o'r rôl y mae fferyllwyr yn ei chwarae yng ngofal iechyd y genedl.
Mae ein fferyllfeydd cymunedol rhagorol yn arbed degau o filoedd o apwyntiadau meddygon teulu bob wythnos ac yn dargyfeirio miloedd o bobl o ddrysau ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a mân anafiadau. Maent hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymdrin â COVID-19. Nid yn unig eu bod wedi darparu cyflenwadau hanfodol o brofion COVID, masgiau a hylif diheintio, mae nifer wedi helpu hefyd drwy ddarparu brechlynnau. Yn ystod yr haf, cefais y pleser o ymweld â Fferyllfa Rowlands yn fy nhref enedigol ym Mhrestatyn. Yn ogystal â'u gwasanaethau arferol, gweithredodd Rowlands fel canolfan frechu i'r gymuned hefyd, gan adeiladu ar eu harbenigedd sylweddol yn darparu'r brechiad ffliw blynyddol. Fe wnaethant helpu i sicrhau bod trigolion Prestatyn yn cael eu brechiad COVID, ac nid oes amheuaeth gennyf y byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o roi pigiadau atgyfnerthu COVID yn y dyfodol, gan ei bod yn debygol iawn y bydd angen pigiadau blynyddol arnom.
Yn anffodus, bydd y straen ar ofal sylfaenol yn parhau i frathu, a hynny i raddau helaeth oherwydd bod y gweithlu'n heneiddio. Bydd y galwadau ar ein fferyllfeydd cymunedol yn parhau i gynyddu. Fodd bynnag, mae ein fferyllfeydd yn wynebu eu problemau eu hunain gyda'u gweithlu. Yn fy mwrdd iechyd lleol i yn unig, Betsi Cadwaladr, ceir dros 152 o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn. Mae hynny'n cyfateb i un swydd wag ym mhob fferyllfa ar draws y gogledd. Mae'r pwysau y mae hyn yn ei roi ar staff yn aruthrol, ac yn ôl cyrff y diwydiant, mae tua 90 y cant o'r staff mewn perygl o gael eu gorweithio. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i hyfforddi a recriwtio fferyllwyr cymunedol. Rhaid iddynt hefyd fynd i'r afael â rhwystrau i weithio'n ddoethach. Nid yw symud at e-bresgripsiynu, sydd wedi'i grybwyll ychydig o weithiau yn ystod y ddadl hon hyd yma, ymhen tair i bum mlynedd yn ddigon da, yn enwedig pan fydd gennym feddygon teulu'n dal i ddefnyddio padiau presgripsiwn papur a pheiriannau ffacs, fel y dywedodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionydd, yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Cafodd y rhan fwyaf o wledydd eraill y DU wared ar y pad presgripsiwn hynafol gan ffafrio presgripsiynu electronig dros ddegawd yn ôl, ac mae cyfeiriad hyd yn oed at e-bresgripsiynu i'w weld mor bell yn ôl â'r 1990au yn Nenmarc. Mae'n dangos sut rydym ar ei hôl hi yn hynny o beth. Mae ymddiriedolaeth GIG yn Birmingham newydd gwblhau'r gwaith o gyflwyno eu meddalwedd presgripsiynu electronig a gweinyddu meddyginiaethau ail genhedlaeth. Wedi'i adeiladu ar dechnoleg cwmwl, mae'n rhoi mynediad hawdd a diogel i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at gofnodion cleifion a meddyginiaethau. Mae'r ymddiriedolaeth yn gwasanaethu poblogaeth debyg i Gymru, ac maent eisoes yn symud eu gwasanaeth e-bresgripsiwn i'r cwmwl, ond mae ein hun ni'n dal i fod yn freuddwyd gwrach yng Nghymru. Rydym yn ddigon bach i fod yn hyblyg hefyd, ond fel gyda phopeth yn y sector cyhoeddus, mae'n cael ei orgymhlethu gan fiwrocratiaeth a meddylfryd seilo. Nid oes ond raid inni edrych ar gyflwyno'r gwasanaeth 111 i gael syniad o'r angen dybryd i foderneiddio ein gofal iechyd. Os ydym o ddifrif yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau fferylliaeth gymunedol a gofal cleifion, rhaid inni fynd i'r afael â hyn yn awr.