Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 30 Mawrth 2022.
Dwi am ganolbwyntio ar un elfen o'r cynnig, sef e-bresgreibio. Mae dadlau am systemau technoleg gwybodaeth o fewn iechyd yn un o'r pethau anacronistaidd yma, onid ydy? Mae'r sector iechyd yn torri tir newydd yn ddyddiol bron efo technoleg, ond eto mae systemau IT yn dal i fodoli yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Mae rhai meddygfeydd yn parhau i fod yn ddibynnol ar beiriannau ffacs. Rŵan, os dwi'n sôn am ffacs i'm mhlant, fydd ganddyn nhw ddim syniad am beth dwi'n sôn. Yn wir, fuasen nhw'n rhoi row i fi am regi, siŵr braidd.
Laura Anna Jones ynghynt yn sôn bod Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno system e-bresgreibio 10 mlynedd yn ôl. Ddaru Denmarc gychwyn e-bresgreibio yn ôl yn y 1990au. Danfonwyd yr e-bresgripsiwn cyntaf yn Sweden yn ôl yn 1983, ac mae nifer o wledydd eraill yn gweithredu e-bresgripsiwn yn llwyddiannus.
Dwi am dalu teyrnged yma i'r gwaith rhagorol y mae Fferyllwyr Llŷn yn ei wneud yn Nwyfor Meirionnydd. Mae Fferyllwyr Llŷn wedi braenaru'r tir droeon. Fe glywsom ni'n ddiweddar am y loceri presgripsiwn sydd wedi cael eu cyflwyno gan Fferyllwyr Llŷn. Fe wnaethon nhw fraenaru'r tir efo rhoi presgripsiynau ar gyfer afiechydon eu hunain, gan dynnu pwysau sylweddol oddi ar meddygfeydd a'u rhyddhau nhw i ganolbwyntio ar achosion mwy dwys. Ac, wrth gwrs, Fferyllwyr Llŷn oedd y fferyllfa gyntaf i ddarparu brechlynnau COVID. Mae yna ddywediad yn y Saesneg, necessity is the mother of invention, ac mae hynny'n sicr yn wir am gymunedau gwledig. Ac mae ein cymunedau gwledig ni yn aml wedi gorfod ffeindio ffyrdd amgen a gwell o weithredu, fel rydym ni wedi'i weld efo Fferyllwyr Llŷn.
Yn yr un modd felly, mae Fferyllfa D Powys Davies ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n rhan o Fferyllwyr Llŷn, eisoes wedi dechrau ar broses o ddigideiddio eu presgripsiynau, gan ddangos bod y broses fewnol honno yn gwneud pethau'n fwy llyfn i'r claf ac yn well i'r fferyllfa. Ond mae o hefyd wedi arwain at lai o gamgymeriadau wrth i gleifion gasglu eu meddyginiaeth a gwell rheolau safonol—quality control. Mae hyn yn ganolog i'r alwad am e-bresgreibio. Yn wir, yn ôl yr ymchwil gan Brifysgol Rhydychen, daw 17 y cant o ymweliadau ysbyty yn sgil camgymeriadau meddyginiaethol, ac mae tua eu hanner yn rhai y gellir fod wedi'u hosgoi. Mae'r ddadl, felly, dros amddiffyn iechyd pobl efo rhoi e-bresgripsiynau yn amlwg, ond mae angen system ganolog er mwyn gwneud y mwyaf o'r dechnoleg sydd gennym ni.
Mae COVID a'r newidiadau cymdeithasol anferthol sydd wedi dod i'n rhan yn sgil yr haint yma—. Yn sgil hyn, mae'n hen bryd ein bod ni'n gweld trosglwyddo'r gallu i bresgreibio i fod yn un digidol wrth i bobl weithio adref, yn cynnwys meddygon, a'u bod nhw'n methu gwneud eu gwaith adref ar hyn o bryd. Neu, yn wir, os ydych chi'n mynd ar eich gwyliau i rhywle, buasech chi'n medru pigo presgripsiwn i fyny mewn dinas arall heb orfod mynd i'ch fferyllfa adref. Ystyriwch ni yma'n bresennol heddiw. Dwi'n gorfod dod i lawr o'r gogledd yma i Gaerdydd. Os buaswn i'n gorfod casglu fy mhwmp asthma, buaswn i'n gallu gwneud hynny yma yng Nghaerdydd heb orfod mynd adref. Felly, mae yna rinweddau amlwg.
Ond, dwi am orffen efo un rhybudd. Rydym ni wedi clywed eisoes fod yna obaith i gael e-bresgripsiwn o fewn y dair neu'r bum mlynedd nesaf, sydd i'w groesawu—dwi'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymhelaethu ar hyn—ond i'w wneud o'n iawn, mae angen sicrhau eich bod chi'n ei wneud o mewn cydweithrediad llawn efo fferyllfeydd cymunedol. Mae yna berygl, wrth gwrs, i hyn wthio mwy a mwy o fferyllfeydd ar-lein ac wrth ein bod ni'n cael mwy o e-bresgreibio ar-lein, fod fferyllfeydd ar-lein felly yn buddio o hyn. Nid yn unig y byddai hyn yn berygl i hyfywedd fferyllfeydd cymunedol, ond byddai hyn hefyd yn torri'r cyswllt personol, sydd yn angenrheidiol yn aml, wrth i fferyllwyr adnabod y mwyafrif o'r cwsmeriaid a chleifion yn eu cymuned. Mae'r cyswllt yna am barhau i fod yn bwysig. Felly, wrth ddatblygu'r systemau newydd, mae'n rhaid ichi wneud hynny mewn cydweithrediad llawn efo'r fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ganolog i'r broses o rannu meddyginiaeth. Dwi'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud o ran pa ymgynghoriadau mae hi wedi eu gwneud efo fferyllfeydd cymunedol i sicrhau eu bod nhw'n ganolog i'r broses honno. Diolch.