Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 30 Mawrth 2022.
Fel y mynegwyd mor huawdl gan Delyth Jewell, mae cymaint o’n hanes modern fel cenedl wedi ei lywio gan y chwyldro diwydiannol, pan ddaeth glo yn danwydd pwysig dros ben. Serch hynny, mae hanes cloddio am lo yn mynd nôl ganrifoedd cyn hynny, gyda’r Rhufeiniaid yn cloddio am lo ym Mhrydain. Yn wir, mae tystiolaeth o gloddio ym Mlaenafon yn mynd nôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac, yn Mostyn, mor bell yn ôl â 1261. Ond agor y pwll glo cyntaf yng Nghymru, yng Nghwm Rhondda yn 1790, oedd y foment fawr, ac, wedi hynny, trawsnewidiwyd tirlun ac economi’r ardaloedd glo wrth i filoedd heidio i fyw a gweithio yno. Ond, wrth i lo o Gymru deithio i bedwar ban byd, ac wrth i rai, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, elwa’n fawr ohono, dioddefodd ein cymunedau a’n pobl yn sgil diwydiant budr a pheryglus. A rŵan, wrth gwrs, rydym yn parhau i ddioddef y sgileffeithiau, nid yn unig yn economaidd a chymdeithasol, ond hefyd o ran y difrod a wnaed gan y diwydiant i’n hamgylchedd a arweiniodd at gynyddu carbon yn ein hatmosffer.
Fel y gwelsom yn Chwefror 2020, gyda’r llifogydd dinistriol, ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd erbyn hyn yn wynebu’r risg mwyaf o gael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd natur, gyda'r risg o lifogydd a thirlithriadau, megis yr hyn a welsom ym Mhendyrus, sydd yn peri pryder aruthrol. Yn wir, mae astudiaethau wedi awgrymu y bydd cynnydd o 6 y cant mewn glaw yn ne Cymru pob gaeaf erbyn 2050, rhywbeth sydd yn barod yn arwain at ansefydlogrwydd afonydd, tir, ac, yn bwysig, tomenni glo. Nid mater o ddiogelwch yn unig yw hyn, ond hefyd mater o gyfiawnder hanesyddol a chyfiawnder hinsawdd. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig elwa ar fanteision y diwydiant glo, gan rwygo cyfoeth o’r cymunedau hyn oedd yn ganolog iddo, gan wedyn eu taflu i’r neilltu.