Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 30 Mawrth 2022.
Mae’n werth meddwl hefyd am werth safleoedd y tomenni o ran treftadaeth, ac, fel rhan o ymgynghoriad y comisiwn, pwysleisiodd Cadw ac ALGAO bod gan rai tomenni werth treftadaeth ac y byddai angen i waith adennill ystyried hyn. Mae'r tomenni glo o fewn tirwedd ddiwydiannol Blaenafon, er enghraifft, wedi'u dynodi gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn safle treftadaeth y byd. Mae nifer o domenni glo hanesyddol wedi'u cofnodi fel nodweddion amgylchedd hanesyddol hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ysytriaeth o ran y broses gynllunio.