– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 26 Ebrill 2022.
Eitem 9 sydd nesaf, a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 yw'r eitem yma. Y Gweinidog iechyd sydd i'w cyflwyno nhw. Dyw'r Gweinidog iechyd ddim yma i gyflwyno'r eitem yma. Felly, fe wnaf i bwyllo ar hynny ac arafu i lawr yn ddifrifol, fel rŷch chi'n gallu gweld, wrth siarad, yn y gobaith ei bod hi'n ymddangos, ond dyw hi ddim yn ymddangos. Felly, nid yw'r eitem yna'n cael ei chyflwyno na'i chynnig ar hyn o bryd.
Eitem 10, felly, yw'r eitem nesaf, y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—[Torri ar draws.] Gan fod y Gweinidog Jane Hutt ddim wedi cynnig yr eitem yma yn ffurfiol, fe af i nôl, felly, i'r Gweinidog iechyd, os ydy hi'n barod nawr, i gyflwyno'r cynnig i'r Senedd ac i ymddiheuro am beidio â bod yma ar yr union bryd yr oedd hi i fod, ond i ymddangos o fewn ychydig eiliadau wedi hynny. Felly, fe wnaf i alw ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno'r rheoliadau coronafeirws. Eluned Morgan.
Ymddiheuriadau i'r Llywydd, a hefyd i'r Senedd.
Llywydd, cynigiaf y cynnig sydd ger ein bron.
Er fy mod yn gobeithio bod yr Aelodau wedi mwynhau toriad y Pasg, ni fyddan nhw wedi anghofio bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni, ac rwy'n falch o gyhoeddi bod y niferoedd yn yr ysbytai wedi sefydlogi dros yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn parhau i fod yn uchel. Yn ei gyd-destun, ar 22 Ebrill 2022, roedd 1,360 o gleifion yn gysylltiedig â COVID yn yr ysbyty—ychydig dros 1,070 yn uwch nag ar yr un pryd y llynedd. Mae canlyniadau diweddaraf astudiaeth heintiau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan un o bob 15 o bobl yng Nghymru COVID-19 ar gyfer yr wythnos hyd at 16 Ebrill. Mae hyn yn ostyngiad yng nghanran y bobl sy'n profi'n bositif o'i gymharu â'r wythnos flaenorol. Mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn uchel ar draws pob rhan o'r Deyrnas Unedig, ond mae canran y bobl sy'n profi'n bositif wedi gostwng ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Byddwn yn adolygu'r ffigurau'n ofalus dros yr wythnosau nesaf, oherwydd y cynnydd mewn cymysgu cymdeithasol dros wyliau'r Pasg. Ger ein bron heddiw mae'r rheoliadau diwygio diweddaraf, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022. Er ei bod yn ymddangos bod sefyllfa'r coronafeirws yn sefydlogi, mae'r cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel ac mae'r pwysau ar y GIG yn dal i fod yn sylweddol iawn. Am y rheswm hwn, cytunodd y Cabinet i gadw'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol am dair wythnos arall. Nod hyn yw helpu i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed a staff sy'n gweithio yn y lleoliadau risg uwch hyn.
O 18 Ebrill 2022, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol bellach i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiad risg coronafeirws penodol a chymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddal y feirws. Gyda gofynion cyfreithiol ar fusnesau wedi'u dileu, cytunodd y Cabinet hefyd nad yw pwerau ychwanegol awdurdodau lleol i gau neu reoli safleoedd a digwyddiadau bellach yn gymesur. Felly, daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 i ben hefyd ar 18 Ebrill 2022.
Nid yw dileu'r gofynion cyfreithiol yn golygu nad oes angen i fusnesau a chyflogwyr ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Fodd bynnag, mae'n bryd iddynt asesu'r risgiau hyn ochr yn ochr â chlefydau trosglwyddadwy eraill, gan gynnwys y ffliw a norofeirws. Rydym wedi diwygio cyngor iechyd y cyhoedd i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i'w helpu i barhau i weithredu mesurau rheoli effeithiol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Bydd hyn yn diogelu eu busnesau, eu gweithwyr a'u hymwelwyr.
Mae cyngor i'r cyhoedd yn parhau i argymell gorchuddion wyneb ym mhob lleoliad dan do prysur neu gaeedig. Mae ein canllawiau yn cynghori amrywiaeth o fesurau rheoli eraill y gall pobl a sefydliadau eu cymryd i helpu i leihau trosglwyddiad y coronafeirws ac i ddiogelu Cymru. Mae rhai o'r mesurau hyn yn cynnwys cael eich brechu, ymarfer hylendid dwylo da, profi a hunanynysu pan fydd gennych chi symptomau, gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do prysur neu mewn llefydd caeedig, cwrdd ag eraill yn yr awyr agored, a, phan fyddwch chi dan do, cynyddu'r awyru a gadael awyr iach i mewn. Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu hadolygu eto erbyn 5 Mai.
Fel rydym yn ei wneud bob amser, byddwn ni'n parhau i wneud penderfyniadau i ddiogelu iechyd pobl Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor iechyd y cyhoedd sydd ar gael i ni. Dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynigion.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Dim ond ychydig iawn o sylwadau gen i. Yn gyntaf, dwi'n croesawu'r ffaith bod y cyngor sy'n cael ei roi i'r Llywodraeth yn dal i gynnig ein bod ni'n gallu symud yn raddol tuag at godi'r mesurau diogelwch sydd wedi bod mewn lle. Mae eisiau ystyried bod yna bobl sy'n nerfus o hyd, serch hynny. Felly, un cwestiwn: wrth i'r gofynion am asesiadau risg mewn gweithleoedd gael eu tynnu nôl, pa warchodaeth mae'r Llywodraeth yn gallu ei rhoi i weithlu sydd, o bosib, yn bryderus nad oes yna ddigon o gefnogaeth iddyn nhw, na chamau diogelwch, os oes yna, er enghraifft, nifer uchel o achosion o fewn ardal benodol neu o fewn y gweithlu hwnnw? Mae'r ffaith bod angen gorchudd wyneb o hyd mewn amgylchiadau iechyd a gofal yn rhywbeth dwi'n ei groesawu. Mae'r cyngor i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn llefydd prysur yn dal yn bwysig tu hwnt. Mae hynny eto yn ein hatgoffa ni o'r angen i feddwl am y bobl hynny sydd yn nerfus oherwydd eu bod nhw yn fregus, o bosib, ac o bosib yn y gweithle hwnnw mae angen gair neu ddau o gadarnhad gan y Llywodraeth bod eu lles nhw yn dal dan sylw gennych chi. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r newid yma heddiw. Un cais arall os caf i: gawn ni ddiweddariad ar ble rydym ni arni o ran gwthio'r haen nesaf o frechiadau allan? Mae'r rhaglen wedi bod yn un llwyddiannus tu hwnt, ond mae pobl yn eiddgar i wybod pa bryd mae eu brechiad nesaf nhw'n dod, ac o bosib mae hyn yn gyfle i'r Gweinidog roi diweddariad sydyn inni ar hynny.
Y Gweinidog iechyd nawr i ymateb i'r unig sylw yna.
Diolch yn fawr, Rhun, ac yn sicr rŷn ni yn ymwybodol iawn bod yna bobl sy'n nerfus iawn o hyd ac sydd yn pryderu, a dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn dilyn y cyngor, efallai, rŷn ni wedi'i roi gerbron, a gwnes i restru'r rheini ar y diwedd, a sicrhau bod pobl yn cael eu brechu—hwnna yw'r peth pwysicaf, wrth gwrs. Ond ar wahân i hynny, rŷn ni i gyd yn gwybod beth sydd angen ei wneud i'n cadw ein hunain yn ddiogel, ac mae eisiau atgoffa pobl o wneud hynny. Mae eisiau i gyflogwyr annog pobl i wneud hynny. Dwi'n falch o weld bod y Senedd yn dal i'n cynghori ni i wisgo gorchudd wyneb pan ŷn ni dan do hefyd. Felly, mae hwnna'n bwysig, ac yn sicr dyna beth rŷn ni eisiau ei weld o safbwynt y Llywodraeth.
O ran brechiadau, wel, wrth gwrs, mae lot o bobl eisoes wedi cael brechiadau mewn cartrefi gofal, felly mae targed rŷn ni'n gweithio tuag ati. Mae lot o bobl dros 75 eisoes wedi cael y brechiad. Dŷn ni ddim wedi gweld cymaint o blant, efallai, yn dod ymlaen ag yr oedden ni'n ei ddisgwyl—o bump i 11—ond beth rŷn ni'n edrych arno nawr yw paratoi ar gyfer beth sy'n dod nesaf yn yr hydref. Rŷn ni'n aros i glywed wrth y JCVI. Bydd yna gyngor interim yn dod cyn hir. Beth rŷn ni wedi gofyn i'r gwasanaeth ei wneud yw paratoi ar gyfer y grwpiau 1 i 9. Felly, os na fyddan nhw'n cynghori'r rheini, wedyn mae'n haws inni dorri nôl yn hytrach na phigo lan, felly dyna yw'r cyngor rŷn ni wedi gofyn i'r gwasanaethau iechyd ei ystyried.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig yma? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna o dan eitem 9 wedi ei dderbyn.