Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 26 Ebrill 2022.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfarfod ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau a'n hargymhellion. Rwy'n croesawu'n fawr ei dull adeiladol o weithredu.
Dechreuaf gyda'n barn ni ar yr egwyddorion cyffredinol. Fel pwyllgor, rydym yn llwyr gefnogi'r egwyddor bod angen y gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol i ddiogelu refeniw Cymru sy'n cael ei godi drwy drethi datganoledig. Fodd bynnag, mae llawer o'n trafodaethau wedi canolbwyntio ar briodoldeb dirprwyo pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion i gyflawni'r amcan hwn, gan ei fod yn arwain at lai o graffu ac yn ildio swyddogaeth ddeddfwriaethol y Senedd.
Roedd y dystiolaeth a gawsom yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol y dylai cyfraith trethi gael ei nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, dylai fod yn destun ystyriaeth a thrafodaeth fanwl, a dylai roi sicrwydd i drethdalwyr. Ac er bod y Gweinidog wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod y Senedd wedi rhoi pwerau i Weinidogion ddiwygio deddfwriaeth trethi drwy reoliadau o'r blaen, nid yw hynny ynddo'i hun yn cyfiawnhau'r dull ac sydd wedi'i gynnig yn y Bil sydd ger ein bron yn y Senedd hon. Rydym ni wedi ein siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu ffyrdd amgen o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig yn gyflym. Yn benodol, gallai'r Gweinidog fod wedi dilyn dull ar gyfer gwneud newidiadau brys i'r gyfraith dros dro drwy benderfyniad gan y Senedd, gyda deddfwriaeth sylfaenol ddilynol yn cael effaith barhaol. Byddai dull o'r fath yn caniatáu i Weinidogion ymateb yn gyflym i ddiogelu refeniw treth a sicrhau cydbwysedd teg rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru. Byddai hyn hefyd wedi bod yn waith paratoi defnyddiol ar gyfer cyflwyno proses cyllideb ddeddfwriaethol yn y dyfodol. Er bod y Gweinidog o'r farn bod proses cyllideb ddeddfwriaethol yn anghymesur ar hyn o bryd, mae angen sicrwydd arnom ni na fydd oedi cyn gweithio i'w datblygu os bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, ac rydym yn credu y dylai rhagor o drethi datganoledig gael eu cynllunio gyda phroses cyllideb ddeddfwriaethol mewn golwg.
Ni ddaethom i benderfyniad unfrydol, gyda thri o'n pedwar Aelod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Nid oedd Peter Fox yn cefnogi'r Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y bydd yn amlinellu ei resymau dros hyn yn ei gyfraniad. Roedd rhai ohonom yn rhannu pryderon Peter ond, ar y cyfan, daethom i'r casgliad nad oedd y pryderon hyn yn cyfiawnhau'r ffaith bod y pwyllgor yn argymell y dylai'r Bil ddisgyn ar hyn o bryd. Er hynny, gwnaethom nodi nifer o feysydd lle y dylid gwneud gwelliannau i'r Bil. Yn gyntaf, roeddem ni'n ei chael hi'n anodd dod i gasgliadau ar y pedwar prawf diben pwrpasol arfaethedig. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni fod cwmpas y pŵer wedi'i gyfyngu'n fwriadol a'i fod wedi'i nodi'n gwbl glir o dan ba amgylchiadau y byddai'n cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, cafodd pryderon difrifol eu codi gyda ni ynghylch ehangder agweddau ar y pŵer, a chawsom ein cynghori y gallai fod yn agored i gael ei gam-drin.
Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn Neddfau trethi Cymru ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a rheoliadau sy'n diwygio cyfraddau treth a bandiau trethi datganoledig. Yn ystod ein gwaith craffu, roeddem yn disgwyl i'r Gweinidog ddarparu enghreifftiau penodol i ddangos sut y byddai modd defnyddio'r pŵer i addasu Deddfau trethi Cymru yn ymarferol. Fodd bynnag, cawsom wybod nad oedd yn ymarferol rhagweld pob un o'r amgylchiadau yn y dyfodol a allai arwain at welliant. Nid oedd hyn yn rhoi llawer o gyfle i ni graffu'n ddigonol, ac felly buom ni'n pwyso eto am enghreifftiau i lywio'r ddadl heddiw. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi darparu enghreifftiau erbyn hyn, a nodi ei bod hi bellach yn ystyried eithrio Rhan 9 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 o gwmpas y Bil. Byddai'r wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol ar y dechrau i alluogi craffu priodol, ond dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
Yr ystyriaeth allweddol fu'r ddarpariaeth yn adran 2 o'r Bil sy'n caniatáu i Weinidogion wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol. Mynegodd tystion bryderon bod hyn yn tanseilio egwyddor sylfaenol y dylai'r gyfraith fod yn sicr. Er ein bod ni'n derbyn y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru liniaru'r risgiau i arian cyhoeddus, mae angen gofal mawr ac achos cymhellol i ddeddfu'n ôl-weithredol. Er mwyn amddiffyn trethdalwyr, rydym yn argymell bod y gallu i wneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol wedi'i gyfyngu ar wyneb y Bil i dri o'r pedwar diben. Rwy'n nodi bwriadau'r Gweinidog i gyflwyno'r gwelliannau sy'n cyfyngu ar y gallu i ddeddfu'n ôl-weithredol ac edrychaf i ymlaen at weld manylion ei chynigion.
Nawr rwyf i eisiau symud ymlaen at gymeradwyaeth y Senedd i reoliadau sy'n cael eu gwneud o dan y Bil. Mae hyn yn cynnwys y weithdrefn gwneud yn gadarnhaol, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd o fewn cyfnod o 60 diwrnod ar y mwyaf. Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf dros gyfiawnhau'r angen i hepgor craffu a chymeradwyo ymlaen llaw, yn enwedig yn achos rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol. O ystyried ein pryderon ynghylch natur eang y pŵer sy'n cael ei geisio a'r gallu i newid cyfreithiau trethi Cymru yn ôl-weithredol, rydym yn annog y Gweinidog i gryfhau'r broses gymeradwyo drwy gynnwys cyfnod byrraf o amser ar gyfer craffu ar unrhyw reoliadau gan y Senedd.
Fe wnaethom ni hefyd ystyried goblygiadau ariannol y Bil ac roeddem ni wedi ein siomi gyda'r diffyg gwybodaeth ariannol a gafodd ei gyflwyno. Heb unrhyw gostau uniongyrchol wedi'u nodi a chostau anuniongyrchol yn cael eu disgrifio gan y Gweinidog yn aneglur, nid oeddem yn gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar effaith ariannol y ddeddfwriaeth hon. Byddwn ni'n disgwyl i unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hategu gan asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn.
Yn olaf, rydym ni'n croesawu parodrwydd y Gweinidog i adolygu'r ddeddfwriaeth. Rydym yn argymell y dylai'r darpariaethau yn y Bil gael eu hadolygu ar ôl cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd ac adolygiad cyfnodol bob pum mlynedd. Mae adolygiad cynnar yn arbennig o bwysig o ystyried yr wybodaeth gyfyngedig sydd gennym i allu craffu arni ac ansicrwydd ynghylch sut y byddai modd defnyddio'r pŵer yn y Bil. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r Senedd i barhau i ganolbwyntio ar p'un a yw'r datblygiad hwn yn ein cyfraith trethi yn briodol.
Llywydd, arhosodd Cymru 800 mlynedd am bwerau i godi trethi. Ni ddylai'r Siambr hon ildio'r pwerau hynny heb feddwl ac ystyried yn briodol.