12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:59, 26 Ebrill 2022

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw er mwyn amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil. Gan mai unig ddiben y Bil yw dirprwyo pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ar drethi Cymru o dan rai amgylchiadau, mae ei ddarpariaethau wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Pwyllgor Cyllid  a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gyda'r ddau bwyllgor wedi dod i gasgliad tebyg.