12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:07, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i, yn fy sylwadau agoriadol, ddiolch i aelodau fy mhwyllgor a'r tîm clercio am y sylw y maen nhw wedi'i roi i'r Bil penodol hwn. Ond hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am drefnu cyfarfod gyda mi a gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau perthnasol. Roeddem ni'n meddwl bod hynny'n ddefnyddiol ac yn adeiladol, ac rwy'n croesawu'n fawr, unwaith eto, y dull adeiladol y gwnaethoch ei fabwysiadu yn y cyfarfod hwnnw a hefyd eich bod wedi dweud eto yn eich sylwadau agoriadol yma heddiw eich bod yn derbyn rhai o'n hargymhellion, yn wir, a oedd â'r nod o wella'r Bil. Yn benodol, Gweinidog, bydd derbyn argymhelliad 16 yn gwarantu bod gan bwyllgorau 28 diwrnod i graffu ar reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gwneud yn gadarnhaol.

Rydym ni hefyd yn croesawu ymateb y Gweinidog i ymdrin ag un o'n pryderon mwyaf am y Bil, sef adran 2(1)(c), sy'n caniatáu i reoliadau o dan adran 1 wneud darpariaeth sy'n cael effaith ôl-weithredol—mater y gwnaeth fy nghyd-Gadeirydd ddwyn sylw'r Siambr iddo. Er i ni ddod i'r casgliad y dylai cyfraith sydd ag effaith ôl-weithredol ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol, mae ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliant i gyfyngu ar y pŵer hwn, fel y mae hi wedi'i amlinellu, yn wir, yn gwella'r Bil presennol hwn.

Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau pwysig y mae angen tynnu sylw atyn nhw o hyd. Daethom i'r casgliad nad yw'r Bil yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i wneud newidiadau i Ddeddfau trethi Cymru. Roeddem ni o'r farn bod lefel y pŵer dirprwyedig yn y Bil yn amhriodol ac nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod graddau'r pŵer hwnnw wedi'i gyfyngu'n ddigonol drwy gynnwys y pedwar prawf diben. Rydym ni yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n brydlon er mwyn osgoi canlyniadau negyddol i gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn credu bod y cydbwysedd yn y Bil hwn yn ormodol o blaid awydd Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym ac mae perygl y bydd yn ymyleiddio mandad democrataidd y Senedd. Felly, rydym ni yn credu, fel mater o egwyddor, y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio Deddfau trethi Cymru, er enghraifft drwy Fil cyllid, yn flynyddol neu fel arall, neu Fil at ddiben arbennig, sy'n destun gweithdrefn hwylus. Rydym ni hefyd yn credu bod y Gweinidog wedi bod ychydig yn rhy gyflym i ddiystyru dull sy'n debyg i'r defnydd o Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968 yn Nhŷ'r Cyffredin, sy'n cynnwys cynnig o'r Senedd, sydd wedyn yn cael effaith barhaol drwy ddefnyddio Bil sy'n ddarostyngedig i weithdrefn ddeddfwriaethol hwylus neu weithdrefn ddeddfwriaethol bwrpasol arall. Nid ydym yn gweld unrhyw reswm pam nad oedd yn bosibl datblygu gweithdrefn ddeddfwriaethol briodol ochr yn ochr â Bil cysylltiedig wrth iddo fynd drwy'r Senedd. Felly, fel y mae ein hadroddiad yn dangos, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull gweithredu o'r fath o ran Biliau cydgrynhoi. Digwyddodd y broses o ddatblygu gweithdrefn, dan arweiniad y Pwyllgor Busnes, ochr yn ochr â gwaith craffu'r Senedd ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru). Byddai wedi bod modd datblygu dull sy'n cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth sylfaenol mewn modd sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau allanol a diogelu cyllid cyhoeddus, fel y dymuna'r Gweinidog, gan barchu goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd ar yr un pryd. Yn sicr, byddai wedi bod yn well na Bil galluogi, gan ddirprwyo pŵer helaeth Harri VIII i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol ar dreth a gafodd ei gwneud gan Seneddau blaenorol.

Felly, am y rhesymau hyn, awgrymodd ein hargymhelliad cyntaf y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i'w gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad statudol o'r pŵer i wneud rheoliadau yn y Bil o fewn dwy flynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Awgrymodd ein hail argymhelliad y dylai darpariaeth machlud briodol gael ei chynnwys, fel nad oes modd gwneud unrhyw reoliadau newydd o dan y pŵer yn adran 1 ar ôl mis Gorffennaf 2027. Felly, rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adrodd ar weithrediad y Ddeddf, fel y mae'r Gweinidog wedi sôn amdani heddiw, ac i gynnwys darpariaeth machlud, er ei bod i wahanol amserlen. Gobeithiwn y bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu, o leiaf, dull gwell o ddiwygio deddfwriaeth trethi ddatganoledig, a allai fod yn gysylltiedig â Deddf 1968 a, gobeithio, heb yr angen i ymestyn y ddarpariaeth machlud hyd at 2032.

Roedd un o themâu allweddol ein hargymhellion eraill yn canolbwyntio ar newidiadau i'r Bil a fyddai'n cyfyngu ar faint y pŵer sy'n cael ei roi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Felly, er enghraifft, gwnaethom argymell y dylid cyfyngu ar ystyr 'osgoi trethi' drwy gyfeirio at y ddarpariaeth gwrth-osgoi gyffredinol, sydd wedi'i nodi yn Rhan 3(a) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Heb welliant o'r fath, bydd Llywodraeth Cymru yn ennill y gallu i benderfynu am beth y mae eisiau deddfu ar ei gyfer o ran unrhyw weithgarwch i osgoi trethi.

Rwy'n dod i gasgliad, Llywydd. Rwy'n ymddiheuro am fynd drosodd ychydig. Mae'r Bil yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru addasu Deddfau trethi Cymru wrth ymateb i 'benderfyniad llys neu dribiwnlys'—y diben o dan adran 1(1)(d). Mae'r diben hwn yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor, yn anad dim oherwydd dywedwyd wrthym fod y pŵer yn eang yn fwriadol i gynnwys pob posibilrwydd, oherwydd na allwn ni ragweld ar hyn o bryd y sefyllfaoedd yn y dyfodol lle y byddai modd defnyddio'r ddarpariaeth. Nawr, rydym ni'n credu y dylai'r newidiadau i'r gyfraith y gallai fod eu hangen o ganlyniad i benderfyniad gan lys neu dribiwnlys gael eu cyflawni drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, ac rydym ni wedi ein siomi, felly, nad yw ein hargymhelliad—sef dileu'r diben hwn o'r Bil—wedi'i dderbyn eto.

I gloi, rwy'n croesawu rhai o'r camau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i ymdrin â'n pryderon, ac rwy'n croesawu cynnig y Gweinidog i ysgrifennu at y pwyllgor ynghylch ein pryderon sy'n weddill ac i weithio'n adeiladol gyda'r ddau bwyllgor. Rydym yn gobeithio, yn y dyfodol agos, y bydd gan Aelodau'r Senedd y gallu i graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol pan fydd angen gwneud newidiadau'n gyflym i Ddeddfau trethi Cymru. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.