12. & 13. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) a Chynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:23, 26 Ebrill 2022

Ac mae hyn, Llywydd, yn hollol groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cyfraith Cymru yn accessible i bawb.

Mae rhai o feddylwyr mawr cyfreithiol a chyfansoddiadol Cymru wedi codi pryderon, wedi codi amheuon sylfaenol yn erbyn y Bil yma. Nid yw gwella neu ddiwygio'r Bil sydd ger ein bron ni yn ddigonol, mae angen atal y Bil fel y mae. Mae angen inni bleidleisio yn ei erbyn a, thrwy hynny, sicrhau bod y Llywodraeth yn ailystyried y ddeddfwriaeth a'r mecanweithiau maen nhw eu hangen i gyflawni y nod maen nhw ei eisiau. Diolch yn fawr.