Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 26 Ebrill 2022.
Rydym yn gwybod am athrawon yn ceisio cadw cydbwysedd wrth geisio addysgu eu plant o'u cartrefi, ac yn gorfod ynysu, a'r holl heriau yna hefyd. Ac eto, nid oedd eu hymdrechion heb eu canlyniadau. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod staff wedi teimlo lefelau uwch o bryder, gydag arweinwyr a staff fel ei gilydd yn teimlo'n ynysig ac wedi blino. Roedd darparwyr addysg yn gydnerth ac yn rhagweithiol yn eu hymateb i'r aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig, a dylid eu canmol am flaenoriaethu lles eu dysgwyr yn ystod cyfnod mor heriol. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod darparwyr wedi sefydlu systemau cynhwysfawr i gadw mewn cysylltiad â'u dysgwyr er mwyn iddyn nhw allu nodi materion yn gyflym a mynd i'r afael â nhw pan oedden nhw'n codi.
Wrth i ni ddechrau dod allan o'r pandemig, er bod yr effeithiau'n dal i fod yno, gyda niferoedd yn dal i fod yn her i athrawon a disgyblion fel ei gilydd, gwelwn ddarparwyr addysg yn dal i wynebu'r heriau sylweddol o weithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r cwricwlwm newydd, yng nghyd-destun effeithiau tymor hwy y pandemig ar addysg a lles, yn ogystal â chael effaith ar faterion recriwtio a chadw staff. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod anghenion lles y sector yn cael eu cefnogi, a bod adferiad addysg ystyrlon yn digwydd, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw fwyaf.
Mae ein gwelliant yn nodi ein gofid bod Estyn wedi canfod bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg, gyda'r grŵp cyntaf yn llai tebygol o gael mynediad at Wi-Fi, dyfeisiau digidol a chymorth gyda'u gwaith ysgol gartref, a'r pandemig yn debygol o effeithio'n ariannol ar eu teuluoedd, wrth i deuluoedd mwy orfod hunanynysu'n amlach. Ac er fy mod i'n croesawu pwyslais y Gweinidog o ran arloesi digidol, sydd yn sicr wedi arwain at wahanol ffyrdd o weithio, gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â disgyblion, ni allwn danbrisio'r effaith yr ydym yn ei gweld o ran y rhaniad digidol hwnnw, a'r effaith y mae hyn wedi bod yn ei chael o ran gwneud y gwahaniaeth hwnnw hyd yn oed yn fwy amlwg.
Gadewch i ni fod yn glir: cyn y pandemig, roeddem yn gwybod bod tua 195,000 o blant yn byw mewn cartrefi islaw'r llinell dlodi, a bydd y ffigur hwn, rydym yn gwybod, wedi tyfu oherwydd yr argyfwng presennol, yn ogystal â'r pandemig. Ac rydym yn gwybod, fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog, fod tlodi'n cael effaith sylweddol ar addysg plentyn. Fel y dywedodd un Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: 'Mae addysg i fod am ddim, ond mae llawer o bethau yn yr ysgol nad ydyn nhw am ddim.' Felly, gofynnir i deuluoedd gyfrannu'n rheolaidd at gost gwisg ysgol, teithiau, codi arian elusennol, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Ac nid oes gan lawer o deuluoedd tlawd arian i'w wario ar ôl iddyn nhw dalu am dai a biliau hanfodol, sy'n gwneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan nad ydyn nhw'n gallu fforddio taliadau bach hyd yn oed i gael cymryd rhan.
Rwy'n gwybod o siarad â theuluoedd yn fy rhanbarth i, sef Canol De Cymru, am eu gofid pan fydd ysgolion yn casglu ar gyfer banciau bwyd, a'u plant yn gorfod egluro eu bod nhw eu hunain yn dibynnu ar gyfraniadau'r banciau bwyd. Rwy'n gwybod bod rhai ysgolion yn gwneud hyn yn sensitif iawn, ond nid yw pobl bob amser yn gwybod beth yw'r effaith ar deulu, teulu nad yw erioed wedi bod mewn argyfwng o'r blaen, sydd bellach mewn argyfwng ac yn gorfod mynd i fanc bwyd am y tro cyntaf. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn sensitif i hyn i gyd, ac mae wedi'i amlinellu yn yr adroddiad o ran y gwahaniaeth hwnnw yr ydym yn ei weld.
Rydym yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn gwaethygu ymhellach yn sgil yr argyfwng costau byw, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
Mae nifer o enghreifftiau o atebion posibl lle gallwn gymryd mwy o gamau ar fforddiadwyedd a darparu rhagor o gymorth i deuluoedd, er enghraifft, sy'n ei chael yn anodd talu am wisg, neu ar gyfer teithiau a gweithgareddau allgyrsiol, i sicrhau arfer cyson ledled Cymru. Dylid rhoi dulliau ariannu, arweiniad ac atebolrwydd ar waith.
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o dlodi ar gyfer ysgolion. Mae'n bwysig bod gan staff ysgolion ddealltwriaeth glir o achosion a chanlyniadau tlodi plant yn eu hardal, er mwyn iddyn nhw allu gweithredu polisïau ac arferion sy'n gynhwysol i bawb. Felly, gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein gwelliant heddiw. Diolch.