14. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 6:44, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddom i gyd, ac fel y mae'r adroddiad yn amlwg yn ei grybwyll ac wedi ei amlinellu gan y Gweinidog, efallai mai blwyddyn academaidd 2020-21 oedd yr un fwyaf heriol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ledled y byd. Mae'r pandemig wedi amharu'n aruthrol ar y system ac mae'n parhau i wneud hynny, gan effeithio ar holl staff yr ysgol, disgyblion a'u teuluoedd. Er, fel y gwelsom gyda'r adroddiad, nid oedd yr effeithiau'n cael eu teimlo'n gyfartal. Roedd darparwyr addysg yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod y pandemig, ac eto roedden nhw'n dal i reoli sefyllfaoedd heriol yn effeithiol ac yn sicrhau eu bod ar gael mwyfwy i ddysgwyr a'u teuluoedd.