Part of the debate – Senedd Cymru am 7:07 pm ar 26 Ebrill 2022.
Mae'r gwaith mae awdurdodau lleol mewn mannau yng Nghymru yn ei wneud i aildrochi rhai o'n dysgwyr ni sydd wedi cael y profiad o golli rywfaint ar eu Cymraeg yn y cyfnod hwn yn bwysig, a hoffwn i ddiolch hefyd i'r partneriaid, fel RhAG ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i wneud ein gorau glas i leihau'r impact andwyol hynny ar yr iaith.