Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 26 Ebrill 2022.
Wel, wrth gwrs, Llywydd, rŷn ni'n hapus i esbonio sut rŷn ni wedi dod at y ffigurau, a rŷn ni'n hapus i gyhoeddi'r ffigurau hefyd, achos maen nhw'n amlwg—maen nhw'n amlwg—a does dim amheuaeth o gwbl amdanyn nhw. Rŷn ni'n mynd i golli £0.75 biliwn oherwydd y system y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei defnyddio—y term yw structural funds yn Saesneg. Ac rŷn ni'n mynd i golli £243 miliwn mas o'r arian a oedd yn dod i Gymru o raglenni'r Undeb Ewropeaidd yn y maes gwledig hefyd. So, mae'r ffigurau gyda ni, mae dadansoddiad gyda ni ac rŷn ni'n hapus i'w gyhoeddi e jest i ddangos beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei wneud, ac wedi torri beth roedden nhw wedi ei ddweud yma, ar lawr y Cynulliad—