Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 26 Ebrill 2022.
Prif Weinidog, fel rŷch chi'n ymwybodol, bydd Pwyllgor Cyllid y Senedd yn edrych ar y gronfa ffyniant gyffredin, ac, fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, dwi am ei gwneud hi'n glir y bydd fy mhwyllgor i hefyd yn archwilio'r trefniadau ariannu newydd yma, ac effaith y trefniadau yma ar Gymru, unwaith bydd y Pwyllgor Cyllid yn adrodd ar y mater hwn. Nawr, rŷch chi a'ch cyd-Aelodau wedi datgan yn glir eich bod chi'n credu bod Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y ffigur hwn o £1 biliwn, ac a wnewch chi gyhoeddi dadansoddiad o sut yn union rŷch chi wedi gweithio mas y ffigur yma?