Cymorth Ariannol i Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 26 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n gwneud hynny trwy flaenoriaethu gwasanaethau llywodraeth leol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn cael £5.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w buddsoddi mewn gwasanaethau allweddol yn y flwyddyn ariannol hon, ynghyd ag £1.8 biliwn ychwanegol mewn grantiau refeniw a chyfalaf penodol.