Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 26 Ebrill 2022.
Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw'r un a nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a Phlaid Cymru, sef gwneud yn siŵr, yn ystod cyfnod y cytundeb hwnnw, ein bod ni'n gallu darparu pryd ysgol am ddim i bob plentyn mewn dosbarthiadau oedran cynradd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad hwnnw, a bydd yn ymrwymiad sy'n gofyn am lawer iawn o ymdrech ar ran ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol i wneud yn siŵr y gellir ei gyflawni. Ac mae'r cyllid a nodir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar gyfer tair blynedd lawn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn rhoi sicrwydd y bydd y cyllid yno i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.