Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 26 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:15, 26 Ebrill 2022

Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'n amlwg rŷch chi wedi cael digon o gyfle i rihyrsio'r ateb i'r cwestiwn yma yn barod, ond mae angen pwysleisio, wrth gwrs, fod yr arian Ewropeaidd wedi cael ei roi i'r ardaloedd mwyaf anghenus yng Nghymru, ac mae Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi elwa yn sylweddol iawn ar hyd y blynyddoedd o'r arian o wahanol gronfeydd Ewropeaidd—er enghraifft, £2.8 miliwn i ddatblygu canol tref Llanelli a miliynau ar gyfer datblygu porthladdoedd yn Aberdaugleddau a Doc Penfro. Felly, er gwaethaf yr addewidion, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddai ceiniog yn llai yn cael ei rhoi i ni yma yng Nghymru, mae'ch dadansoddiad chi yn awgrymu yn glir fod rhyw £1 biliwn yn mynd i gael eu colli i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Felly, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain, mae yna ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, yn un. Pa sgyrsiau ŷch chi wedi eu cael gyda San Steffan er mwyn sicrhau bod mwy o lais gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn y penderfyniadau? A pha asesiad ŷch chi wedi'i wneud o ran llenwi'r bylchau ariannol yna lle mae cymunedau difreintiedig a sefydliadau, yn aml trydydd sector, wedi colli arian oherwydd y diffygion yn y gwariant yma gan y Torïaid?