1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ebrill 2022.
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57944
Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiwn. Llywydd, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bodloni'r addewid i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ychwaith wedi bodloni'r addewid na fyddai Cymru yn colli unrhyw bwerau. Bydd llai o lais gan gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru a bydd llai o arian ar gael. Ni fydd yr ardaloedd hynny sydd mewn y mwyaf o angen yn cael digon o gymorth, felly.
Diolch yn fawr iawn. Wel, mae'n amlwg rŷch chi wedi cael digon o gyfle i rihyrsio'r ateb i'r cwestiwn yma yn barod, ond mae angen pwysleisio, wrth gwrs, fod yr arian Ewropeaidd wedi cael ei roi i'r ardaloedd mwyaf anghenus yng Nghymru, ac mae Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi elwa yn sylweddol iawn ar hyd y blynyddoedd o'r arian o wahanol gronfeydd Ewropeaidd—er enghraifft, £2.8 miliwn i ddatblygu canol tref Llanelli a miliynau ar gyfer datblygu porthladdoedd yn Aberdaugleddau a Doc Penfro. Felly, er gwaethaf yr addewidion, fel rŷn ni wedi clywed, na fyddai ceiniog yn llai yn cael ei rhoi i ni yma yng Nghymru, mae'ch dadansoddiad chi yn awgrymu yn glir fod rhyw £1 biliwn yn mynd i gael eu colli i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Felly, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn Llundain, mae yna ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, yn un. Pa sgyrsiau ŷch chi wedi eu cael gyda San Steffan er mwyn sicrhau bod mwy o lais gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn y penderfyniadau? A pha asesiad ŷch chi wedi'i wneud o ran llenwi'r bylchau ariannol yna lle mae cymunedau difreintiedig a sefydliadau, yn aml trydydd sector, wedi colli arian oherwydd y diffygion yn y gwariant yma gan y Torïaid?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol yna. Gaf i ddweud wrtho fe, pan oeddwn i wedi bod yn sgwrsio gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, dwi ddim yn fodlon jest i gael llais mewn penderfyniadau y maen nhw'n mynd i'w gwneud. Dydy hwnna ddim yn adlewyrchu datganoli yma yng Nghymru, pwerau'r Senedd, na'r ffaith mai'r Llywodraeth yma yng Nghymru sy'n gyfrifol am y pynciau rŷn ni'n siarad amdanyn nhw. Beth dwi eisiau ei weld yw cydweithio gyda'n gilydd i wneud y penderfyniadau; nid jest llais, ond pwerau yma i ni eu defnyddio.
Nawr, dwi'n fodlon i bara ymlaen i gael mwy o sgyrsiau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond ar ddiwedd y dydd, cyn roedden nhw wedi cyhoeddi popeth am y gronfa, doedden ni ddim wedi cytuno ar sut y gallai hi gael ei rhoi yn ei lle. Dydy e jest ddim yn ddigonol i'r Senedd hon i fod jest yn rhan o bethau, yn un o'r cyrff mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig jest yn clywed beth sydd gennym i'w ddweud. Dydy hwnna jest ddim yn adlewyrchu beth sydd wedi digwydd dros y cyfnod o ddatganoli i gyd.
Ar y pwynt arall, am lenwi'r bylchau, mae'n bwysig i fi ddweud yn glir, Llywydd, does dim arian gyda ni fel Llywodraeth i lenwi pob bwlch mae penderfyniadau San Steffan yn mynd i'w creu. Rŷn ni'n gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio'r rhaglenni sydd gyda ni yn barod, i gydweithio â'r awdurdodau lleol ac yn y blaen, ond pan fydd Cymru yn colli mas o fwy na £1 biliwn, mae'n amhosibl meddwl y bydd y Llywodraeth yma yng Nghymru jest yn gallu ffeindio arian ar y lefel yna.