– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Ebrill 2022.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, ac felly dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwyf i wedi gwneud y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, rwyf i wedi tynnu'r datganiad yn ôl ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19, ac yn ail, yn amodol ar atal y Rheolau Sefydlog, byddwn ni'n trafod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch, Trefnydd, am eich datganiad. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ddiweddariad y mae mawr ei angen ar y corff gwarchod llais dinasyddion, a gweithredu swyddogaeth newydd y sefydliad hwnnw. Dros y blynyddoedd, mae gwaith cyngor iechyd cymuned y gogledd wedi gwneud argraff fawr ar lawer o bobl yn y gogledd, fel y gŵyr Aelodau yn y Siambr hon, ac un peth yr wyf i'n angerddol yn ei gylch yn bersonol, yw fy mod i'n credu y dylai'r corff gwarchod llais y dinesydd newydd gael ei leoli yn y gogledd, nid yng Nghaerdydd, nac unrhyw ran arall o'r wlad. Nid oes gan y gogledd lawer o bencadlysoedd y gwahanol gyrff sydd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu y byddai hyn mewn gwirionedd yn creu cynsail dda i'r rhanbarth.
Mae'r ail ddatganiad yr wyf i eisiau'i glywed gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â'r wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd gan Y Byd ar Bedwar, y rhaglen a gafodd ei darlledu ar S4C neithiwr, rai datgeliadau ysgytwol. Roedd aelodau o staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn uned Hergest, yn dweud bod arnyn nhw ofn dod i'r gwaith, eu bod yn ofni codi eu llais oherwydd sgil-effeithiau posibl ynghylch gwasanaethau, eu bod yn teimlo bod diffyg cefnogaeth gan reolwyr, bod problemau staffio ar y wardiau hynny, a bod yr amgylchedd gwaith yn wenwynig. Yn ogystal â hynny, roedd cleifion yn honni na chawson nhw y driniaeth i gleifion mewnol yr oedd ei hangen arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, daw hyn ar ben adroddiad yr wythnos diwethaf a ddaeth i'r amlwg am atal dros dro aelod o staff yn ysbyty eich etholaeth chi eich hun, yn Wrecsam Maelor, yn ôl yr honiadau o ran negeseuon WhatsApp a gafodd eu dosbarthu ynghylch claf â dementia a oedd wedi trochi gwely.
Mae'n amlwg nad yw hyn yn awgrymu bod y problemau yng ngwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u datrys. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi a oedd â phryderon a pherthnasau a gafodd eu heffeithio gan sgandal Tawel Fan i ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi'u siomi'n wael gan Lywodraeth Cymru a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bod y mathau hyn o bethau'n dal i ddigwydd. Pryd fydd y diwylliant yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd yn newid? Mae angen i bobl wybod, ac mae angen iddyn nhw wybod pa gamau y mae Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd er mwyn newid y sefyllfa hon.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynglŷn â'r corff gwarchod llais y dinesydd, hyd y gwn i—ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr i glywed eich cwestiwn—nid oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch ble y bydd yn cael ei leoli. Rwy'n cytuno â chi; fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gogledd, mae'n dda iawn gweld sefydliadau wedi'u lleoli yn y gogledd—Banc Datblygu Cymru, er enghraifft, sydd, unwaith eto, yn fy etholaeth i. Ond mae'n dda iawn gweld pencadlys, ac rwy'n credu bod angen hynny arnom ni ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, pan ddaw at y penderfyniad hwnnw, yn ystyried y pwynt hwnnw hefyd.
O ran y rhaglen, ni welais i'r rhaglen fy hun neithiwr, ond gwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i Dirprwy Weinidog dros iechyd meddwl ei gweld hi. Rydych chi'n codi dau bwynt o'r rhaglen honno. Yn sicr, mae'r digwyddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn ysbyty Maelor yr wythnos diwethaf yn destun ymchwiliad gan yr heddlu. Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd rhan lawn yn yr ymchwiliad hwnnw, felly nid yw'n briodol gwneud sylw arall ar hyn o bryd. O ran y mater ehangach yr ydych chi'n ei godi ynghylch iechyd meddwl, yn amlwg, mae'r bwrdd iechyd dan amodau ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl. Unwaith eto, rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd, fel y mae eu swyddogion. Mae camau gweithredu clir sydd wedi eu cytuno ar waith, ac, unwaith eto, o fy nhrafodaethau fy hun gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o safbwynt Gweinidog dros y gogledd, gwn ei bod hi'n edrych ar yr amserlen ac a oes angen iddi dod â honno ymlaen, i weld y gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau'u gweld.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gymorth i ddarparwyr cludiant ysgol. Yn ddiweddar mae Pencoed Travel a Cresta Coaches wedi cysylltu â mi, sydd wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau tanwydd. Ers i'w contractau gael eu tendro'n wreiddiol, ym mis Mehefin y llynedd, mae costau tanwydd Pencoed Travel, er enghraifft, wedi codi 40 y cant. Mae Cresta Coaches a Pencoed Travel wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gofyn am gymorth i dalu'r costau hyn sy'n cynyddu'n gyflym, ond bu hynny'n ofer. Dywedodd BCBC eu bod yn aros am gyngor gan Lywodraeth Cymru cyn iddyn nhw geisio datrys y mater, gan eu bod yn credu mai mater i Lywodraeth Cymru ac nid iddyn nhw yw hyn. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o awdurdodau lleol eraill sy'n cynnig datrysiad. Byddwn i'n ddiolchgar am rywfaint o eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddatrys y mater hwn.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd, yn amlwg, rydym ni'n gweld y cynnydd hwn yng nghostau tanwydd, a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Gwn fod y Gweinidog addysg a'r Gweinidog llywodraeth leol yn ymwybodol o hyn. Rwy'n credu y bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cael trafodaethau eraill, ac, os oes angen canllawiau, bydd modd eu rhoi ar yr adeg briodol.
Prynhawn da, Gweinidog. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Daw'r datganiad cyntaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd o ran hyfforddeion meddygon teulu rhyngwladol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tua 160 o feddygon teulu dan hyfforddiant y flwyddyn, ac rwy'n deall bod GIG Cymru wedi nodi na fydd 80 o hyfforddeion—hanner y garfan honno—yn gymwys i aros yn y DU pan ddaw eu hyfforddiant i ben eleni, oherwydd ni fyddan nhw wedi bod yma'n ddigon hir eto i wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y camau y mae hi'n eu cymryd yn y tymor byr i gadw'r meddygon teulu hyn yng Nghymru, ac, yn fwy hirdymor, ar y cymorth y gallai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ei ddarparu i helpu practisau meddygon teulu unigol i gadw'r meddygon teulu hyn?
Daw'r ail ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd am ddiogelwch adeiladau. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod nifer o ddatblygwyr tai ar raddfa fawr wedi gwneud ymrwymiadau ariannol i helpu i unioni methiannau o ran diogelwch adeiladau, y mae llawer ohonyn nhw'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, ond nad ydyn nhw ond yn cyfrannu at waith adfer yn Lloegr. Mae yna hefyd nifer o amddiffyniadau statudol sydd wedi'u rhoi i lesddeiliaid yn Lloegr, drwy'r Bil Diogelwch Adeiladau, nad ydyn nhw wedi'u hymestyn i Gymru. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, ac, yn hollbwysig, i lesddeiliaid, am gynlluniau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ei hun? Diolch.
Diolch. O ran yr ail ddatganiad yr ydych chi'n gofyn amdano, ynghylch diogelwch adeiladau, gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r ardoll diogelwch adeiladau ar sail Lloegr yn unig, er enghraifft. Gwn yr oedd galwadau o Gymru a'r Alban iddo fod yn fesur i'r DU gyfan. O ran ein deddfwriaeth ein hunain yr ydym ni wedi'i chynnig, gwyddom ni fod angen newid sylfaenol a chynhwysfawr i'r fframwaith diwylliant a deddfwriaethol yng Nghymru. Byddwn i'n cynnal ymgynghoriad papur gwyn, i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, a bydd y diwygiadau'n cynnwys cyflwyno categori newydd o bersonau atebol, newidiadau i gofrestru a thrwyddedu a sefydlu tîm arolygu ar y cyd newydd, a bydd hynny'n dechrau yn y flwyddyn ariannol hon.
Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei godi ynghylch hyfforddeion meddygon teulu rhyngwladol yn un pwysig iawn. Rydym ni eisiau cadw cymaint o hyfforddeion meddygon teulu â phosibl. Rydym ni wir wedi gwerthu Cymru fel lle gwych i ddod, i ddysgu, i hyfforddi, i fyw, i weithio ynddo, ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cadw nhw. Gwn fod y Gweinidog yn cael trafodaethau gyda'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny.
Ddoe, roedd y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a minnau yn bresennol mewn digwyddiad gwych yn y Senedd, lansiad Forever Flowers Hosbis y Ddinas, sy'n galluogi pobl i noddi blodyn haul i goffáu rhywun sydd wedi marw o ganser, ac yna caiff ei arddangos yng nghastell Caerdydd yn ystod pythefnos cyntaf mis Awst, syniad calonogol yn ogystal â ffordd effeithiol iawn o godi arian. Disgrifiodd un o'r siaradwyr rhagorol iawn yn y digwyddiad hwn y gofal rhagorol a gafodd ef a'i wraig gan Hosbis y Ddinas a'r ffordd nad oedd yn rhaid iddyn nhw adrodd eu stori dro ar ôl tro. I'r gwrthwyneb, bob tro yr oedd ganddyn nhw arbenigwr GIG gwahanol, roedd yn rhaid iddyn nhw adrodd yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Felly, yn yr un modd ag y mae gan fenywod beichiog ac, yn wir, y rhai sy'n cael gofal parhaus gartref eu nodiadau eu hunain gyda nhw, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch pa gynnydd y gallwn ni ei wneud o ran sicrhau bod gan gleifion eu nodiadau electronig eu hunain, ac, yn achos cleifion canser yn benodol, eu galluogi nhw i sicrhau bod pawb yn gwybod yn union pa lefel o driniaeth y maen nhw'n ei chael gan wahanol arbenigwyr fel bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr hyn y maen nhw'n ei gael, yn hytrach na gofyn i bobl adrodd hanes poenus eu triniaeth eto ac eto.
Yn ail, rwyf eisiau gofyn am gonfensiwn Istanbul ar ymdrin â thrais yn y cartref. Ar 8 Mehefin, bydd yn 10 mlynedd ers i Lywodraeth y DU lofnodi confensiwn Istanbul Cyngor Ewrop, ond, 10 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym ni eto wedi'i gadarnhau. Roedd yn 2015 pan wnaethom ni ddeddfu ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Gwn i fod Llywodraeth y DU y tu ôl i'r gromlin o ran peidio â deddfu tan y llynedd ar y mater hwn, ond beth nawr sy'n atal Llywodraeth y DU rhag cadarnhau'r confensiwn pwysig iawn hwn? Tybed a gawn ni ddatganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y rhwystrau a'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gael gwared arnyn nhw.
Diolch. Mae'n braf iawn clywed am y digwyddiad yr oeddech chi'n bresennol ynddo ddoe a'r blodau haul. Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu llawer iawn gan ein hosbisau, nid yn unig yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ati o ran profiad cleifion, ond hefyd o ran codi arian. Yr wythnos diwethaf, gofynnodd fy hosbis leol, Tŷ'r Eos yn Wrecsam, i ni anfon lluniau o flodau ysgorpionllys i wneud rhywbeth tebyg iawn. Rwy'n credu y gallwn ni ddysgu llawer ganddyn nhw. Mae'r Gweinidog yn gwneud datganiadau rheolaidd ynghylch y gwasanaethau y mae hosbisau yn eu darparu, ac fe wnaf weld a all hi ychwanegu'r hyn y gwnaethoch chi ei gyfeirio ato at un o'r datganiadau hynny.
O ran confensiwn Istanbul, mae'n un o'r blaenoriaethau allweddol o ran amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref ledled y byd, ac fel Llywodraeth rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i weld Llywodraeth y DU yn cadarnhau hyn cyn gynted â phosibl. Fel y dywedwch chi, mae wedi cymryd amser hir. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, sydd yma ac sydd wedi clywed eich cwestiwn, wedi ysgrifennu at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Victoria Atkins, tua chwe mis yn ôl, yn rhannu ei siom o ddifrif am drafferthion menywod mudol, er enghraifft, sy'n dioddef cam-drin domestig. Ni chafodd ei gydnabod ar wyneb eu Bil sydd nawr yn Ddeddf. Gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelodau, os oes ganddi unrhyw beth arall y gall hi roi gwybod i ni amdano.
Rwy'n galw am un datganiad ar gyllid i achub y gylfinir rhag diflannu ar lefel gwlad sydd ar fin digwydd. Dydd Iau diwethaf, 21 Ebrill, oedd Diwrnod Gylfinir y Byd, i amlygu'r peryglon y mae'r gylfinir yn eu hwynebu o ganlyniad i ffactorau sy'n newid, colli cynefin o ansawdd yn bennaf ac ysglyfaethu cynyddol. Dydd Iau diwethaf hefyd oedd diwrnod gwledd Sant Beuno, nawddsant y gylfinir yn y calendr traddodiadol Cymreig. Mae'r gylfinir a'u galwad etheraidd yn eiconig yng Nghymru, yn ganolog i ddiwylliant, hanes a chred. Pan ddes i'n gefnogwr rhywogaeth Cymru ar gyfer y gylfinir, fodd bynnag, gwnes i rybuddio yma mai dim ond 15 mlynedd oedd gennym ni ar ôl i'w hatal rhag diflannu fel poblogaeth fridio yng Nghymru, ac mae chwech o'r blynyddoedd hynny nawr wedi mynd heibio ac wedi'u colli. Wel, ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd ddydd Iau diwethaf, ysgrifennodd Mick Green—Cymdeithas Adaregol Cymru ac aelod o Gylfinir Cymru/Gylfinir Cymru—hefyd at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bersonol ac yn gyhoeddus yn gofyn iddi wireddu ei haddewid wrth lansio cynllun gweithredu Cymru ar gyfer adfer y gylfinir ym mis Tachwedd y llynedd, pan addawodd hi weithio gyda Gylfinir Cymru i sicrhau y gallwn ni ei ariannu a'i roi ar waith—i ddyfynnu—cynllun gweithredu gyda manteision niferus ac aml-rywogaeth. Parhaodd Mr Green, 'Dim ond naw tymor bridio sydd gennym ni ar ôl erbyn hyn i achub y rhywogaeth eiconig hon rhag diflannu yn ôl y rhagamcanion. Rhowch gyfarwyddyd i'ch swyddogion i weithio gyda Gylfinir Cymru i ddod o hyd i ffordd frys o gael cyllid yn uniongyrchol i Curlew Action.' Daeth i'r casgliad, 'Os gwelwch yn dda, ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd, a allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd cyllid uniongyrchol ar gael i achub y gylfinir rhag diflannu a bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei phrosiectau ei hun yn peryglu'r rhywogaeth hon ymhellach?' Mae'r amser i siarad ar ben. Os nad ydym ni'n gweithredu, maen nhw wedi mynd. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu o ran gwarchod a sicrhau bod y gylfinir yn goroesi. Roeddwn i'n ffodus iawn o fod ar fferm dair wythnos yn ôl, mae'n siŵr, lle y clywais i un, felly mae'r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y sector amaethyddol yn amlwg yn dechrau gweithio. Gwn fod y Gweinidog yn ystyried yr holl gynlluniau sydd ganddi o fewn rhan bioamrywiaeth ei phortffolio i sicrhau bod cyllid yn mynd i'r mannau cywir i sicrhau bod—. Mae gennym ni argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Felly, byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni os oes yna unrhyw beth newydd y gall hi sôn wrthym ni amdano o fewn y cynlluniau sydd ganddi.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf: gaf i ofyn am ddatganiad ar unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella atebolrwydd democrataidd yn ein byrddau iechyd? Byddwch chi'n gwybod bod yna newidiadau sylweddol wedi bod yn y byrddau iechyd tua 10 mlynedd yn ôl. Fe ddaru ni weld, er enghraifft, cartref gofal Dryll y Car yn Llanaber yn cau, yn colli wyth o welyau ar gyfer cleifion iechyd meddwl oedrannus. O ganlyniad, does yna ddim digon o welyau ar gyfer pobl efo anghenion iechyd meddwl oedrannus yn Nwyfor Meirionnydd ac maen nhw wedi gorfod mynd i Hergest, ac wrth gwrs rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r sefyllfa yno. Rŵan, pe buasai llywodraeth leol neu'r Llywodraeth yma neu'r Senedd yma'n gwneud penderfyniad o'r fath, buasai pwyllgor craffu yn edrych ar y penderfyniad er mwyn gweld os oedd yna unrhyw beth y medrid ei wneud yn wahanol. Ond does yna ddim gallu i graffu ar ein byrddau iechyd. Mae'r cyngor iechyd cymuned yn gwneud gwaith clodwiw, ond does ganddyn nhw ddim y gallu na'r dannedd i wneud yr hyn sydd ei angen. Felly, dwi eisiau gweld, os yn bosib, unrhyw ddatganiad, unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau y gallu i graffu ar ein byrddau iechyd yn well.
Yn ail, gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol, os gwelwch yn dda, ynghylch pa gamau rydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n ymddangos fel argyfwng yn ein cynghorau cymuned, tref a dinas ni? Edrychwch ar Wynedd, er enghraifft. Mae yna 139 ward ar gyfer cynghorau cymuned, a dim ond wyth ohonyn nhw, dwi'n meddwl, sydd efo cystadleuaeth, sydd efo etholiad. Ond mae hyn yn wir ar draws Cymru. Yn Ogwr, er enghraifft, mae yna ddwy ward heb ddim un ymgeisydd ar gyfer yr etholiadau cyngor cymuned sy'n dod i fyny. Dydy hyn ddim yn gynaliadwy. Mae yna newidiadau wedi bod mewn cynghorau cymuned a thref dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn amlwg dydyn nhw ddim wedi gweithio. Felly, pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr haen yma o lywodraeth leol yn hyfyw?
Diolch. Rwy'n credu bod yr ail bwynt y gwnaethoch chi ei godi, ynghylch yr etholiadau llywodraeth leol a chynghorau cymuned sydd gennym ni yng Nghymru yr wythnos nesaf, yn un pwysig iawn. Rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn gweld cynifer o seddi'n mynd heb etholiad, a chymaint o ymgeiswyr nad ydyn nhw'n camu ymlaen yn y ffordd y byddem ni'n dymuno. Rwy'n credu ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cynyddu ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi fod pobl yn gallu gwneud dewis yn y blwch pleidleisio, a gwn fod hwn yn ddarn parhaus o waith y mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ei wneud.
O ran craffu ar fyrddau iechyd, wrth gwrs, mae unrhyw un sy'n mynd ar un o'r byrddau iechyd yn mynd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus, sy'n ofalus iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am benodi Cadeiryddion drwy'r broses hefyd, a thrwy'r Cadeirydd hwnnw, mae wedyn yn gallu craffu ar y bwrdd iechyd yn ei gyfanrwydd. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw waith arall sy'n digwydd, ond eto, os yw'r Gweinidog yn gwybod am unrhyw beth, gallai ysgrifennu atoch chi.
Hoffwn i dynnu sylw'r Trefnydd at y ffaith bod digwyddiad yn cael ei gynnal o'r enw 'Next steps for waste, recycling and the circular economy in Wales' sy'n cael ei gynnal gan sefydliad sy'n galw ei hun yn Policy Forum for Wales Online Conference. Yn wir, nid yw'n unrhyw beth o'r fath. Mae'n gwmni o Bracknell. Mae'n codi £210 ynghyd â TAW ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, y pen, i'w fynychu. Mae'r holl arian hwnnw'n mynd allan o Gymru, ac mae'r cyfarwyddwyr yn tynnu miliynau allan o'r cwmni. Dau o'r prif siaradwyr sy'n cael eu hysbysebu—ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n gwneud hyn gyda phob ewyllys da; dydw i ddim yn credu eu bod nhw'n ymwybodol o'r ffordd y maen nhw'n cael eu hecsbloetio—yw Bettina Gilbert, pennaeth darparu rhaglenni WRAP, a Dr Andy Rees, pennaeth yr is-adran strategaeth wastraff, effeithlonrwydd adnoddau ac economi gylchol, Llywodraeth Cymru. Nawr, gwn i fod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn boicotio hwn. Mae'n benderfyniad y rhoddodd y Prif Weinidog wybod i mi amdano y tymor diwethaf. A fyddai posibilrwydd y gallai'r Siambr hon graffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch a oes unrhyw ymgysylltu arall yn digwydd gan Lywodraeth Cymru? Ac a fyddai hi'n cymryd camau i annog ein sector cyhoeddus i beidio ag ymgysylltu â'r hyn y gellid ond ei ddisgrifio fel criw o gowbois?
Rwy'n ymwybodol i chi godi hyn gyda'r Prif Weinidog yn flaenorol. Rwy'n credu yr oedd tua thair blynedd yn ôl, mae'n debyg, erbyn hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu pob math o ddadl ar faterion polisi cyhoeddus yng Nghymru. Ond, fel y dywedwch chi, fel Gweinidogion, rydym ni'n ystyried yn ofalus iawn y digwyddiadau yr ydym ni'n siarad ynddyn nhw—a ydym ni'n derbyn gwahoddiadau i siarad mewn digwyddiadau sy'n codi ffioedd ac sydd wedi'i drefnu'n fasnachol. Rhaid i ni wneud llawer o benderfyniadau ynghylch y rheini, gan ystyried llawer o bethau. Mae ein swyddogion yr un fath. Rhaid iddyn nhw ystyried gwahoddiadau hefyd ar y sail honno, os oes digwyddiad sy'n codi ffioedd. Mae angen iddyn nhw sicrhau eu hunain bod budd amlwg i'r cyhoedd o gymryd rhan. Unwaith eto, efallai eich bod chi'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Parhaol blaenorol wedi ysgrifennu ynghylch hynny, yn dilyn ateb y Prif Weinidog i chi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn amlwg, os bydd swyddog yn cymryd rhan mewn digwyddiad—os bydd gwas sifil yn cymryd rhan mewn digwyddiad—nad oes unrhyw achos canfyddedig o dorri didueddrwydd gwleidyddol. Ond yn sicr, fel Gweinidogion, rydym ni'n gwneud y penderfyniadau hynny ar sail yr effaith y byddai'n ei chael.
Gweinidog, rwyf i bob amser wedi bod yn falch o Ben-y-bont ar Ogwr fel lle cyffrous a bywiog i fyw ynddo. Ond, mae wedi dod yn amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd, a chymaint o siopau ac adeiladau gwag yn rhoi ymdeimlad o roi'r gorau iddi. Mae llawer o fusnesau wedi cael trafferth mynd yn ôl ar eu traed ers y pandemig. Mae llawer wedi troi at werthu ar-lein, ond mae canol y dref yn parhau i fod yn bwysig er mwyn cadw'r ymdeimlad hwnnw o gymuned. A wnaiff y Gweinidog drefnu dadl i ni ystyried strategaeth y Llywodraeth ar gyfer adnewyddu canol trefi, ac i'r Llywodraeth gyhoeddi pa fuddsoddiad sydd wedi mynd i ganol ein trefi ni ers y pandemig i gynnau eu hadfywiad? Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch. Wel, nid wyf i'n credu ei bod yn rhy hir ers i ni gael datganiad am adfywio canol ein trefi, ac mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod canol ein trefi mor fywiog ag y gallan nhw fod. Rwy'n credu, fel y dywedwch chi, fod y pandemig wedi arwain at lawer mwy o fusnesau mewn sefyllfa o frwydro nag a fu, ond rwy'n credu ein bod ni wedi gweld newid yn ymddygiad pobl o ran siopa cyn y pandemig a llawer o'n siopau'n mynd ar-lein. Ond mae'n bwysig iawn, fel y dywedwch chi, i'r ymdeimlad hwnnw o gymuned. Rydym ni'n gweld canol ein trefi'n newid ac yn dod yn llawer mwy preswyl, rwy'n credu; yn sicr yn fy etholaeth i, rwy'n gweld fflatiau'n mynd uwchben siopau mewn ffordd nad oeddem ni efallai wedi'i wneud o'r blaen. Ond nid wyf i'n meddwl ei bod hi'n rhy hir ers i ni gael datganiad.
Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch i chi. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r broses apêl gynllunio yng Nghymru. Dim ond wythnos diwethaf, fe roddodd ein hawdurdod lleol ni gymeradwyaeth amodol i adeiladu 49 o gartrefi y tu ôl i Ysgol y Gogarth. Roedd hwnnw'n gais cynllunio dadleuol iawn, gydag aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd ar bob lefel yn ei wrthwynebu, a'r swyddfa gynllunio ei hun yn ei wrthwynebu hefyd. Ynglŷn â chais arall a roddwyd gerbron y pwyllgor yr wythnos diwethaf, gwelwyd tro pedol gan swyddogion, ac fe wnaethon nhw benderfynu cefnogi hwnnw, ac un o'r rhesymau a nodwyd oedd eu bod nhw'n pryderu llawer am y costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw broses apelio. Fe ofynnwyd i mi ers hynny, a chan etholwyr dros y blynyddoedd, yn wir, pam y mae gan ddatblygwyr sy'n gallu fforddio bargyfreithwyr a phethau o'r fath broses apelio ar gyfer achos lle gwrthodwyd cais, ac eto nid oes proses apelio ar gyfer ceisiadau fel hwn, sydd, yn fy marn i, os edrychwch ar 'Bolisi Cynllunio Cymru', yn torri rhai o ganllawiau Polisi Cynllunio Cymru, mewn gwirionedd. Ac felly rwyf i wedi gofyn i'r Gweinidog cyn heddiw a fyddai hi'n bosibl i ni gael system fwy cyfiawn, fel bydd y broses apelio yn gweithio'r ddwy ffordd—nid yn unig i'r datblygwr, ond i'r cymunedau ac, yn wir, mewn gwirionedd, i'r aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd, fel gall lleisiau'r gymuned wirioneddol gael ail gynnig yn hyn o beth, oherwydd fe wn i fod llawer o etholwyr yn cael eu tramgwyddo gan lawer o geisiadau cynllunio pryd mae swyddogion cynllunio o'r farn fod rheidrwydd arnyn nhw i ganiatáu i gais fynd drwodd oherwydd eu bod nhw'n gofidio am gostau unrhyw broses apelio. Diolch i chi.
Diolch i chi. Nid oes cymaint o amser â hynny ers i'r polisi cynllunio gael ei ddiweddaru yma yng Nghymru; rwy'n credu i hynny ddigwydd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gyflwyno proses apelio yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei hawgrymu. Byddwn i yn ei chynghori hi i ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol efallai, i ofyn y cwestiwn arbennig hwnnw.
Diolch i'r Trefnydd.