Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 26 Ebrill 2022.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad chi heddiw. Mae Amy, sy'n etholwraig i mi, wedi rhannu fideo yn ddiweddar o'i gwesteion hi o Wcráin yn cyrraedd Maes Awyr Bryste, sydd wedi cael ei wylio dros 3.2 miliwn o droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe wnaeth hi hyn i ddangos i bobl Wcráin a phobl ledled y byd fod Cymru yn wir genedl noddfa. Mae hi'n drist iawn, mewn gwirionedd, fod gwestai Amy i fod i deithio gyda'i ffrind a'i mab wyth oed, ond fe wnaethon nhw benderfynu peidio â dod am eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn pryderu o ran y derbyniad y bydden nhw'n ei gael yma, ond dyna pam mae Amy wedi rhannu'r fideo hwn, ac rwy'n falch iawn o ba mor bell y mae hwnnw wedi treiddio, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud llawer o les.
Mae Amy a noddwyr eraill yn parhau i fynd yr ail filltir i sicrhau bod eu gwesteion yn cyrraedd yma'n ddiogel. Serch hynny, mae hi a llawer un arall wedi rhannu eu profiad nhw gyda mi o gynllun nawdd Llywodraeth y DU. Fe geir camdybiaeth o ran bod Llywodraeth y DU yn cysylltu noddwyr â gwladolion o Wcráin. Nid yw hyn yn wir. Mae pobl yn dibynnu ar grwpiau Facebook i wneud hyn. Mae pobl o Wcráin yn rhoi hysbysiadau o'u gwybodaeth a'u hamgylchiadau personol nhw, ac yna mae noddwyr yn ymateb yn y sylwadau gan gynnig eu cartrefi. Er bod llawer o bobl sy'n llawn bwriadau da yn cynnig cymorth ni chaiff y broses ei rheoleiddio na'i monitro ac mae hynny'n codi nifer o bryderon posibl o ran diogelwch pobl sy'n ffoi o Wcráin, yn ogystal ag o ran diogelwch y noddwyr. Rwyf i wedi clywed nifer o straeon hollol erchyll, hunllefus yn barod.
Mae camdybiaeth yn bod hefyd o ran y bydd trefniadau yn cael eu gwneud iddyn nhw deithio yma. Unwaith eto, nid yw hynny'n wir. Fe ofynnodd fy etholwr i ffrindiau sy'n byw yng Ngwlad Pwyl i yrru cerbyd at y ffin ag Wcráin ar gyfer cynnig cludiant i fam a'i phlentyn, a'u gyrru nhw i'r maes awyr wedyn er mwyn gallu mynd ar awyren i'r DU. Fe wariodd fy etholwraig i ei chynilion i dalu am gost y tocynnau iddyn nhw allu hedfan yma oherwydd mae'r rhai rhad ac am ddim wedi dod i ben erbyn hyn.
Nid oes proses olrhain ychwaith i weld a ydyn nhw'n cyrraedd yma. Mae'r Swyddfa Gartref yn cymeradwyo'r cais am fisa a dyna i gyd. Felly, beth pe bydden nhw'n cyrraedd yma ac yn mynd ar goll wedyn? Pwy fyddai'n gwybod? Pwy sy'n gwirio?