Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 26 Ebrill 2022.
Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i amlinellu sut yr ydym ni'n bwriadu trawsnewid a moderneiddio'r ffordd y mae'r GIG yn darparu Gofal a Gynlluniwyd yma yng Nghymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynllun a fydd yn helpu i leihau'r amseroedd aros hir sydd, yn anffodus, wedi cronni yn ystod y pandemig. Fe fydd hwn yn sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth iawn ar y tro cyntaf ac yn sicrhau eu bod nhw'n cael gofal mor agos i'w haelwyd â phosibl, â llai o ymweld ag ysbytai.
Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Mae wedi ymestyn y GIG i'r eithaf, nid yn unig yma yng Nghymru ond ledled y DU. Mae'r GIG wedi bod yn wych yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r pandemig. Mae wedi darparu gofal anhygoel o dan amgylchiadau eithriadol o anodd ac, ar ben hynny, mae wedi cyflawni'r rhaglen frechu COVID-19 sy'n achub bywydau. Rydym ni wedi gweld y gorau o'r GIG a'i staff yn ystod y pandemig. Maen nhw wedi gweithio yn ddiflino i gynnal cymaint o wasanaethau â phosibl. Y nhw yw'r rheswm yr aethom ni i sefyll ar garreg y drws i gymeradwyo bob wythnos ar ddechrau'r pandemig.
Ond fe ddaeth y pandemig â llawer o newidiadau i'r GIG. Ar ddechrau'r pandemig, fe wnaethom ni'r penderfyniad anodd i ganslo apwyntiadau a thriniaethau a gynlluniwyd i ganiatáu staff i ganolbwyntio ar ofalu am yr holl bobl sâl iawn hynny oherwydd COVID-19. Mae pob ton ddilynol o heintiau wedi golygu bod y GIG wedi gorfod canolbwyntio ar COVID-19 yn hytrach na gallu darparu'r gymysgedd lawn ac arferol o apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau a gynlluniwyd. Bu'n rhaid i wasanaethau addasu hefyd oherwydd y nifer fawr o weithdrefnau ac arferion i reoli heintio, a'r holl fesurau angenrheidiol i helpu i gadw cleifion a staff yn ddiogel. Mae'r rhain hefyd wedi cyfyngu ar niferoedd y bobl y gellir eu gweld ac sy'n gallu cael triniaeth ar unrhyw amser arbennig.
Wrth i ni ddechrau symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig, mae'r GIG yn darparu mwy o ofal a gynlluniwyd nawr nag ar unrhyw amser arall yn ystod y pandemig. Ond, hyd yn oed heddiw, mae bron i 1,400 o gleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19 mewn gwelyau ysbyty, er mai dim ond tua 16 y cant o'r rhain sy'n cael eu trin yn weithredol oherwydd COVID. Ar y lefel hon, mae pwysau'r pandemig hwn yn parhau i effeithio ar faint a math y gofal a gynlluniwyd y gall y GIG ei ddarparu.
Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros yn gostwng yn gyson ledled Cymru, yn anffodus, heddiw mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir o lawer am driniaeth, a honno yw'r sefyllfa ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae bron i 700,000 o lwybrau agored, gyda llawer o bobl yn aros am fwy na 52 wythnos. Fe fydd y rhifau hyn yn parhau i gynyddu wrth i bobl, yn briodol felly, barhau i fynd i weld eu meddygon teulu. Fe fydd hi'n cymryd tymor Senedd llawn a llawer o waith caled i adfer wedi effaith y pandemig. Honno yw fy mlaenoriaeth i erbyn hyn a blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd.
Mae'r cynllun i adfer Gofal a Gynlluniwyd yn cael ei gefnogi gan £170 miliwn ychwanegol y flwyddyn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fe fydd yn ailgychwyn ac yn trawsnewid gwasanaethau Gofal a Gynlluniwyd ac fe gafodd ei ddatblygu gyda mewnbwn gan glinigwyr. Mae'n nodi ystod eang o gamau gweithredu i ailgynllunio gwasanaethau ac, mewn llawer o achosion, ailgynllunio'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan y GIG wrth gael eu hatgyfeirio gan eu meddygon teulu neu weithiwyr gofal iechyd proffesiynol arall ar gyfer triniaeth a gynlluniwyd. I'r rhai sydd eisoes yn disgwyl, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y gefnogaeth ar gael. I'r rhai sy'n dod i mewn i'r system, fe fyddwn ni'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau eu hunain a, lle bynnag y bo hynny'n briodol, fe fyddwn ni'n darparu mwy o ddewisiadau triniaeth amgen fel nad llawdriniaeth yw'r unig ddewis sydd ar gael. Fe fyddwn ni'n gwneud mwy hefyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gofal.
Heddiw, rwyf i'n gwneud pedwar ymrwymiad i bobl, i'w helpu nhw i gael gafael ar y cyngor a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw mewn da bryd. Fe fyddwn ni'n cynyddu gallu'r gwasanaethau iechyd. Fe fydd hi'n haws cael mynd at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn nes adref, felly mae pobl yn cael y gofal cywir gan yr unigolyn cywir. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu diagnosis a thriniaeth. Fe fydd triniaethau a gweithdrefnau diagnostig ar gael yn gynt. Fe fyddwn ni'n blaenoriaethu pobl a allai fod â chanser a chyflyrau brys eraill ac fe fyddwn ni'n blaenoriaethu plant. Fe fydd clinigwyr yn gweithio gyda phobl i wneud yn siŵr mai dewis triniaeth yw'r peth gorau iddyn nhw.