1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch effaith Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Llywodraeth Cymru ar y diwydiant twristiaeth? OQ57912
Cynhaliais gyfarfod bord gron gyda Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 7 Chwefror i drafod canlyniad yr ymgynghoriad ar drethi lleol ar ail gartrefi a llety hunanddarpar.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, fel y mae’r Gweinidog eisoes yn gwybod, rwy’n siŵr, mae newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i godi’r meini prawf defnydd ar gyfer cael eich dosbarthu'n fusnes 160 y cant wedi creu cryn dipyn o gynnwrf yn y diwydiant twristiaeth. Ar adeg pan fo'r sector yn dal i wella o effeithiau ariannol y pandemig, mae newid o'r fath wedi achosi pryder ymhlith llawer o ddarparwyr llety sy'n nerfus ynglŷn â pha mor simsan yw'r archebion a gânt ar hyn o bryd ac a fyddant yn gallu cyrraedd y trothwy newydd. Nawr, mae adroddiad diweddar gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality, a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi nodi bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i ymgynghoriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru o blaid alinio’r rheolau yng Nghymru â’r rheini a gynigiwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Lloegr, sef trothwy o 105 diwrnod o gymharu â’r trothwy presennol o 70. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu mynd ar drywydd trothwy o 182 diwrnod, gan anwybyddu’r safbwyntiau a gafwyd drwy’r ymgynghoriad gwreiddiol yn ôl pob golwg, heb egluro fawr ddim i gynrychiolwyr y sector pam eu bod yn gwneud hynny. Weinidog, pam y penderfynodd Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynigion nad yw cyfran fawr o’r sector twristiaeth yng Nghymru yn cytuno â hwy? Ac a wnewch chi gyfarfod ar fyrder â chynrychiolwyr y sector i sicrhau bod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn addas i'r diben? Diolch.
Diolch i Peter Fox am godi’r mater hwn y prynhawn yma. Gwn y cawn gyfle eto i drafod rhai o'r manylion yn y ddadl sydd wedi'i threfnu ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae’n wir, fel y mae Peter Fox yn cydnabod, ein bod wedi ymgynghori ar ein cynigion i newid trethi lleol, a chawsom oddeutu 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, a oedd yn ymateb rhagorol. Ac roedd y safbwyntiau a gasglwyd drwy'r ymgynghoriad hwnnw, gan gynnwys, mae'n rhaid imi ddweud, sylwadau gan y diwydiant twristiaeth ehangach, yn cefnogi newidiadau i'r meini prawf ar gyfer categoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig. Ac mae'n deg dweud fod barn pobl yn amrywio'n fawr ynglŷn â lle y dylem bennu'r lefelau hynny o ran nifer y nosweithiau y dylid hysbysebu llety ar eu cyfer, ac y caiff y llety hwnnw ei osod mewn gwirionedd, er mwyn cael ei ystyried yn fusnes ac yna er mwyn cael ei ystyried yn fusnes mewn perthynas â rhyddhad ardrethi busnes.
Rydym o'r farn y dylid gosod eiddo hunanddarpar ar sail ddigon mynych i wneud cyfraniad gwirioneddol i'r economi leol ac y dylai'r rheini nad ydynt yn gwneud hynny dalu'r dreth gyngor. Ac rwyf wedi cyfarfod â Chynghrair Twristiaeth Cymru—cefais gyfarfod rhagorol â hwy yn ddiweddar iawn—ac fe wnaethant ddangos casgliad o’r 1,500 o ymatebion a gawsant i mi, ac rwy'n eu hystyried ochr yn ochr â’r gwaith a wnawn ar hyn o bryd ar yr ymgynghoriad technegol. Ond rydym wedi cael trafodaethau rhagorol gyda’r diwydiant drwy gydol y broses o lunio’r gwaith hwn, ac wrth gwrs, dylwn ychwanegu ei fod yn waith a wnawn ar y cyd gyda Phlaid Cymru.