1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
2. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi'r gwaith o gyflwyno strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ57934
Cyhoeddwyd cronfa cefnogi cwmnïau lleol gwerth £1 miliwn gan Weinidog yr Economi er mwyn cefnogi’r economi leol ledled Cymru i ddarparu mwy o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y sector cyhoeddus. Ynghyd â setliad llywodraeth leol sy'n sylweddol uwch, mae hyn yn helpu i greu mwy o swyddi, a swyddi gwell yn nes at adref.
Diolch, Weinidog. Mae ein holl gymunedau wedi dioddef yn sgil effeithiau economaidd COVID, ac mae hyn wedi’i waethygu, wrth gwrs, gan yr argyfwng costau byw, sy’n taro ein hardaloedd mwyaf difreintiedig galetaf. Yn ogystal â lliniaru’r argyfyngau yn awr, mae angen inni hefyd sicrhau bod ein cymunedau’n ddigon cryf i allu ymdopi ag unrhyw stormydd economaidd yn y dyfodol. Felly, yn awr yn fwy nag erioed, dylai ein hawdurdodau lleol flaenoriaethu strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol uchelgeisiol, gan ddefnyddio gwariant caffael gan gyrff angori lleol er budd y gymuned. Mae awdurdodau lleol, fel Castell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i, wedi addo adfywio eu cymunedau yn y Cymoedd, ond mae’r realiti ar lawr gwlad yn dangos bod y strategaethau hynny wedi methu cyflawni. Mae strategaeth Cadw'r Budd yn Lleol Cyngor Gwynedd, sy’n ystyried y ffordd orau o gadw arian sy’n cael ei wario gan y cyngor yn yr ardal leol, yn sicr yn fodel i’w annog yng Ngorllewin De Cymru. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r swm o wariant y cyngor sy'n aros o fewn y sir wedi codi o £56 miliwn i £78 miliwn, cynnydd o 39 y cant. A yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad ar hyn, a sicrhau bod cyllid a chymorth ar gael i awdurdodau lleol ddyfeisio a gweithredu strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol effeithiol, a fydd yn creu cymunedau cynaliadwy, cryf, er mwyn cyflawni newid cymdeithasol ac economaidd mawr ei angen?
Rwy’n ddiolchgar i Sioned am godi mater pwysig, yn enwedig yng nghyd-destun cael y cymunedau cryf hynny wrth inni symud i gyfnod anodd iawn. Ac rydym yn gwbl ymrwymedig, fel Llywodraeth Cymru, i gryfhau'r economi sylfaenol yma yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu â’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i weithio ar draws pum clwstwr o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, i archwilio’r potensial ar gyfer adeiladu cyfoeth cymunedol a gynigir drwy gaffael blaengar. Ac o ganlyniad, mae aelodau'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi nodi blaenoriaethau o ran caffael, megis cynyddu ymgysylltiad â chyflenwyr lleol a chyflenwyr y trydydd sector—er enghraifft, ar ôl-osod tai, caffael bwyd lleol, a hefyd ar ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi. Ac mae ymgysylltiad y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol hefyd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o gonglfeini eraill adeiladu cyfoeth cymunedol, megis sut yr awn ati i ddefnyddio ein hasedau a’n hadeiladau, yn ogystal â phwysigrwydd strategaethau gweithlu lleol, a sut y gallant oll gydweithio i gefnogi’r blaenoriaethau llesiant lleol hynny. Felly, yn sicr, mae hyn yn ffocws allweddol i fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi. Credaf fod gennym waith da i adeiladu arno, o ran y gwaith yr ydym eisoes wedi'i wneud gyda'r ganolfan, y gwaith y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ei wneud, a cheir enghreifftiau gwych hefyd o ran yr hyn sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol unigol. Mae cronfa her yr economi sylfaenol ym Mro Morgannwg, er enghraifft, wedi llwyddo i ymgysylltu â mwy na 1,000 o fusnesau newydd, drwy ddigwyddiadau gyda Busnes Cymru, GwerthwchiGymru, ac eraill, i helpu i ddeall rhai o’r problemau tendro a oedd yn atal busnesau bach rhag tendro am eu gwaith. Felly, credaf fod hwnnw wedi bod yn waith defnyddiol, ac yn sicr, gallwn archwilio sut y byddem yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o hynny ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru.
Nawr, wrth inni gynllunio ar gyfer adnewyddu ein heconomi, mae cyfleoedd enfawr i gymunedau gymryd rhan yn y gwaith o benderfynu sut y gwneir hynny ac i awdurdodau lleol weithredu fel yr arweinwyr a'r hwyluswyr. Ceir enghreifftiau o hyn yn Lloegr, yn Preston, lle mae ganddynt strategaeth adeiladu cyfoeth uchelgeisiol. Pa strategaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhagweld ar gyfer Cymru er mwyn harneisio budd caffael lleol, defnydd tir, asedau cymunedol, a’r amrywiaeth o sefydliadau angori sy’n bodoli ledled Cymru, megis cymdeithasau tai a chyrff y trydydd sector? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Altaf Hussain am godi model Preston—mae'n rhywbeth sydd wedi bod o gryn ddiddordeb i Lywodraeth Cymru wrth inni ddatblygu ein gwaith ein hunain ar yr economi sylfaenol. Ac mae'n sicr yn fodel y gwnaethom ei archwilio mewn perthynas â'r sefydliadau angori hynny—y rôl sydd gan y GIG i'w chwarae, y rôl sydd gan awdurdodau lleol i'w chwarae, sefydliadau addysg uwch. Mae gan bob un o'r sefydliadau hynny nad ydynt yn mynd i unman ran bwysig iawn i'w chwarae yn y gwaith ar yr economi sylfaenol. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi'i ddysgu o fodel Preston, yn ogystal â'r gwaith gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol. O ganlyniad i rywfaint o’r meddylfryd hwnnw, rydym wedi cefnogi’r GIG yng Nghymru drwy ein rhaglen economi sylfaenol, i ymgorffori gwerth cymdeithasol yn eu penderfyniadau dyfarnu contractau. Ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, arweiniodd hyn at £28 miliwn yn cael ei ddyfarnu i fusnesau yng Nghymru. Felly, rydym yn sicr yn defnyddio'r hyn a ddysgwyd gennym drwy fodel Preston, ond wedyn, yn amlwg, rhoi ein stamp Cymreig a'n pwyslais Cymreig ein hunain ar hynny.