Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:47, 27 Ebrill 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ym mis Chwefror, mi gyhoeddodd eich Llywodraeth y bydd 53,000 o weithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o ryw £1,000 o bunnau. Mae unrhyw arian ychwanegol i weithwyr yn y sector i'w groesawu, wrth gwrs, ond nid taliadau bonws one-off ydy'r ateb. Dydy o ddim yn mynd i'r afael â'r broblem go iawn. Beth sydd angen ydy i weithwyr yn y sector gofal gael eu gwobrwyo a'u cydnabod fel maen nhw yn eu haeddu yn eu cyflogau fis ar ôl mis, blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chael eu trin hefyd yn gyfartal efo gweithwyr sydd yn y sector iechyd. Pennawd yn unig oedd y taliad bonws; plastr dros dro. Felly pa gyllid sydd ar gael ac mewn lle ar gyfer gwobrwyo, sefydlogi a thyfu'r gweithlu gofal yn yr hir dymor, fel sydd ei angen?