Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 27 Ebrill 2022.
Wel, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyflawni ein hymrwymiad maniffesto yn gynnar iawn i ddarparu cyflog byw gwirioneddol i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, mae’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaethau cymdeithasol, ond roeddem yn falch iawn o allu cyflawni hynny. Ond er mwyn cynorthwyo'r gweithwyr yn y sector hwnnw i bontio i hynny, wrth gwrs, fe wnaethom gyhoeddi'r bonws diweddar, neu'r taliad diweddar, dylwn ddweud, i bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig, gweithwyr gofal cymdeithasol—yn benodol, y rheini mewn cartrefi gofal, gofal cartref a chynorthwywyr personol sy’n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol—er mwyn sicrhau eu bod yn cael y budd o hynny cyn i daliad y cyflog byw gwirioneddol ddechrau. Ond gwnaethom geisio sicrhau bod camau cynnar iawn yn cael eu cymryd ar hynny o ran cyflawni'r addewid penodol hwnnw.