Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:00, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi codi’r argyfwng costau byw gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys sawl gwaith, fodd bynnag, nid yw cymorth Llywodraeth y DU yn ddigon da o hyd. Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy’r argyfwng hwn ac yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr effeithiau sy’n wynebu Cymru.