1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi pobl Islwyn drwy'r argyfwng costau byw? OQ57922
Rwyf wedi codi’r argyfwng costau byw gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys sawl gwaith, fodd bynnag, nid yw cymorth Llywodraeth y DU yn ddigon da o hyd. Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy’r argyfwng hwn ac yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr effeithiau sy’n wynebu Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae pobl yn fy etholaeth i yn Islwyn a ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw gwirioneddol ddigynsail. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y byddwn yn gweld y gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw yn 2022-23. Gwyddom mai’r bobl dlotaf mewn cymdeithas fydd yn cael eu heffeithio fwyaf, yn enwedig y rhai ar fudd-daliadau mewn etholaethau fel fy un i. Weinidog, rwy’n croesawu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yn hyn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i geisio mynd i’r afael â’r heriau y mae unigolion a’u teuluoedd yn eu hwynebu, gan gynnwys y taliad o £150 i bob aelwyd ym mandiau treth A i D, sy’n estyniad i’r cynllun cymorth tanwydd y gaeaf gwerth £200 i aelwydydd cymwys a’r £25 miliwn i awdurdodau lleol ddarparu cymorth dewisol. Ond rydym yn gwybod bod y broblem yn ddyfnach na hyn. Gwyddom fod gan Lywodraeth y DU ddulliau o ddarparu’r cymorth hanfodol hwnnw, ond fel y dangosodd eu diffyg gweithredu yn natganiad y gwanwyn yn ddiweddar, nid yw’r Torïaid yn poeni am yr heriau ariannol y mae’r rhai mwyaf agored i niwed yn eu hwynebu. Weinidog, wrth i unigolion a theuluoedd wynebu’r pwysau digynsail hwn ar gyllid eu haelwydydd, beth y gellir ei wneud i annog Llywodraeth y DU i weithredu’n gyfrifol a chefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau?
Mae Rhianon Passmore yn llygad ei lle bod datganiad y gwanwyn yn ddiweddar yn warthus o ran y modd y methodd fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sydd bellach yn wynebu unigolion a theuluoedd ledled Cymru. Dim ond yn awr y bydd teuluoedd yn dechrau gweld eu biliau tanwydd yn codi. Gwyddom fod prif swyddogion gweithredol cwmnïau ynni yn rhagweld, heb ymyrraeth Llywodraeth y DU, y bydd hyd at 40 y cant o aelwydydd yn wynebu tlodi tanwydd yn ystod y flwyddyn hon, ac wrth gwrs, ar ben hynny i gyd, rydym yn gweld y codiadau treth mwyaf ers 30 mlynedd gan Lywodraeth y DU, a bydd y rheini’n dechrau brathu y mis hwn hefyd. Felly, bydd pethau’n mynd yn anos.
Byddwn yn gwneud popeth a allwn o fewn ein pwerau a’n hadnoddau i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed drwy’r cyfnod hwn, ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu o ddifrif. Rydym wedi llunio camau ymarferol y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd, er enghraifft rydym wedi eu hannog dro ar ôl tro i gynyddu haelioni’r gostyngiad Cartrefi Cynnes. Gallent ariannu hwnnw drwy gynnydd mewn trethiant cyffredinol yn hytrach na’r ardoll ar ddefnyddwyr ynni yn y cartref eraill, oherwydd gwyddom fod yr ardoll gymdeithasol honno mewn gwirionedd yn taro’r teuluoedd na allant ei fforddio yn waeth. Byddem hefyd yn hoffi gweld tariff cymdeithasol yn cael ei gyflwyno fel bod y bobl sydd ar incwm isel iawn yn gallu cael mynediad at ynni am lai gost. Ac wrth gwrs, gallai Llywodraeth y DU hefyd gyflwyno ardoll ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cwmnïau ynni wedi’i wneud a defnyddio’r refeniw hwnnw i gefnogi’r aelwydydd tlotaf. Felly, mae digon eto y gall Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU.
Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cydnabod, ac o’r atebion yr ydych wedi’u rhoi hyd yn hyn, rydych yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd cadw pobl mewn gwaith i’w cefnogi drwy’r argyfwng costau byw. Felly, er eglurder, yn ogystal â phecyn £9 biliwn Llywodraeth y DU i helpu teuluoedd yn y DU gyda'u biliau tanwydd, gan gynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 ar gyfer aelwydydd ym mandiau eiddo A i D, maent hefyd wedi diogelu—Llywodraeth y DU, hynny yw—25,900 o swyddi yng Nghaerffili drwy’r cynllun ffyrlo ac wedi darparu cymorth gwerth £51.6 miliwn i 5,700 o unigolion hunangyflogedig. Bydd Caerffili hefyd yn elwa o dros £1.3 miliwn o fuddsoddiad cronfa adfywio cymunedol Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y byddai’r caledi y mae teuluoedd yn Islwyn yn ei wynebu ar hyn o bryd yn llawer mwy heb y symiau enfawr o arian sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Geidwadol y DU? Diolch.
Mae'r pecyn cymorth y gallwn ei gynnig i bobl sy'n byw yng Nghymru bron ddwywaith yr hyn a gawsom mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Felly, byddwch yn cael y taliad o £150 mewn aelwydydd ym mandiau A i D yng Nghymru, ond byddwch hefyd yn ei gael ym mhob un o’r bandiau eraill os ydych yn derbyn arian o gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, gan gydnabod y bydd yna bobl y tu hwnt i'r bandiau A i D hynny sy'n ei chael hi'n anodd ac y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda'u biliau. Yn gynharach eleni hefyd, rydym wedi darparu taliad o £200 i'r aelwydydd sydd ar yr incwm isaf. Fe wnaethom hynny heb unrhyw gymorth ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac nid yw’n rhywbeth a oedd ar gael i bobl dros y ffin yn Lloegr, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r £200 ychwanegol hwnnw eto yn ddiweddarach eleni, ond rydym yn bwriadu ehangu nifer yr aelwydydd a fydd yn elwa o hwnnw. Ac er eglurder, nid yw hwn yn arian y bydd yn rhaid ei dalu'n ôl i Lywodraeth Cymru. Yn wahanol i gynllun benthyca Llywodraeth y DU, byddwn yn darparu hwnnw fel grant i aelwydydd ac edrychwn ymlaen at wneud hynny yn ddiweddarach eleni oherwydd ein bod yn cydnabod y bydd yr argyfwng costau byw yn parhau am beth amser—nid digwyddiad untro yn unig ydyw.