Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:49, 27 Ebrill 2022

Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llanast o'r ymgais i gyflwyno taliadau bonws dro ar ôl tro, mae'n rhaid dweud, dros y blynyddoedd diwethaf. Mi ddywedais i, funud yn ôl, wrth gwrs fod unrhyw daliad ychwanegol i gael ei groesawu gan y rhai sy'n ei dderbyn o, ond problem fawr arall ydy bod llawer ddim yn ei gael o: gweithwyr ceginau a glanhawyr mewn cartrefi gofal, fel mae etholwyr i fi ac undeb Unsain wedi tynnu sylw ato fo—pobl sy'n gweithio mewn canolfannau dydd i oedolion hefyd. Mae'n rhestr hirfaith, ac iddyn nhw y cwbl maen nhw'n ei weld ydy eu rôl nhw yn cael ei thanseilio. Rŵan, mae'r taliad yn creu dwy haen yn y gweithlu, ac mae'n anodd meddwl am ffordd fwy amlwg i ddweud wrth rai, 'Sori, dydych chi ddim yn cael eich gwerthfawrogi.' Rŵan, gan eich bod chi mor grediniol fel Llywodraeth mai drwy daliadau bonws one-off mae dangos gwerthfawrogiad, a gawn ni ymrwymiad i dalu'r bonws o £1,000 i'r holl weithlu gofal?