Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 27 Ebrill 2022.
Wel, roedd y cynigion yn destun ymgynghoriad 12 wythnos. Felly, byddwn yn dadlau bod digon o gyfle i fusnesau a chyrff cynrychioliadol ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwnnw, ac fe wnaethant hynny yn wir. Cawsom dros 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac roedd llawer ohonynt yn cefnogi’r cynnydd yn nifer y nosweithiau y mae’n rhaid cynnig neu osod eiddo. Felly, cawsom ymatebion cryf i’r ymgynghoriad hwnnw. Ers hynny, fel y dywedais wrth Peter Fox, rwyf hefyd wedi cyfarfod â Chynghrair Twristiaeth Cymru, a chawsom drafodaeth fanwl ar y pwynt penodol a wnaethoch ynghylch amodau cynllunio ar eiddo penodol, ac ymrwymais i archwilio’r mater hwnnw ymhellach yn y cyfarfod hwnnw, ac rwyf yn y broses o gael cyngor ar hynny ar hyn o bryd.