Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 27 Ebrill 2022.
Weinidog, rwy’n siŵr y byddwch yn cydnabod, ac o’r atebion yr ydych wedi’u rhoi hyd yn hyn, rydych yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd cadw pobl mewn gwaith i’w cefnogi drwy’r argyfwng costau byw. Felly, er eglurder, yn ogystal â phecyn £9 biliwn Llywodraeth y DU i helpu teuluoedd yn y DU gyda'u biliau tanwydd, gan gynnwys ad-daliad treth gyngor o £150 ar gyfer aelwydydd ym mandiau eiddo A i D, maent hefyd wedi diogelu—Llywodraeth y DU, hynny yw—25,900 o swyddi yng Nghaerffili drwy’r cynllun ffyrlo ac wedi darparu cymorth gwerth £51.6 miliwn i 5,700 o unigolion hunangyflogedig. Bydd Caerffili hefyd yn elwa o dros £1.3 miliwn o fuddsoddiad cronfa adfywio cymunedol Llywodraeth y DU. Felly, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y byddai’r caledi y mae teuluoedd yn Islwyn yn ei wynebu ar hyn o bryd yn llawer mwy heb y symiau enfawr o arian sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Geidwadol y DU? Diolch.