Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ôl Brexit, mae'r DU yn ddiffygiol o ran deddfwriaeth i ddiogelu lles anifeiliaid, ac mae'n rhaid cymryd camau brys. Mae ymchwil yr RSPCA wedi dangos bod tua 73 y cant o'i arolygwyr yn credu bod creulondeb tuag at anifeiliaid yn digwydd am nad yw pobl yn deall bod anifeiliaid yn ymdeimladol, gyda theimladau ac emosiynau. Gyda llinellau cymorth brys yn derbyn dros 1 filiwn o alwadau bob blwyddyn, mae'n amlwg fod angen gwell dealltwriaeth o les anifeiliaid ledled y DU. A fyddai'r Gweinidog yn fodlon gweithio ochr yn ochr â'r Gweinidog addysg i hyrwyddo rhaglenni addysgol i wella dealltwriaeth pobl o ymdeimladoldeb anifeiliaid a sut y mae'n berthnasol i ni yn ein bywydau bob dydd, yn enwedig gan fod cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi cyfle i athrawon roi gwybod i ddisgyblion ynglŷn ag empathi a thosturi? Diolch.