2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gydnabod yn gyfreithiol ymdeimlad anifeiliaid yn y broses o lunio polisïau datganoledig? OQ57929
Mae Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) y DU wedi cwblhau ei daith seneddol ac mae'n aros am Gydsyniad Brenhinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau yn ein 'Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru 2021-26' a bydd yn pennu ein cyfeiriad ein hunain ar ymdeimladoldeb, gan gydnabod bod anifeiliaid yn greaduriaid ymdeimladol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ôl Brexit, mae'r DU yn ddiffygiol o ran deddfwriaeth i ddiogelu lles anifeiliaid, ac mae'n rhaid cymryd camau brys. Mae ymchwil yr RSPCA wedi dangos bod tua 73 y cant o'i arolygwyr yn credu bod creulondeb tuag at anifeiliaid yn digwydd am nad yw pobl yn deall bod anifeiliaid yn ymdeimladol, gyda theimladau ac emosiynau. Gyda llinellau cymorth brys yn derbyn dros 1 filiwn o alwadau bob blwyddyn, mae'n amlwg fod angen gwell dealltwriaeth o les anifeiliaid ledled y DU. A fyddai'r Gweinidog yn fodlon gweithio ochr yn ochr â'r Gweinidog addysg i hyrwyddo rhaglenni addysgol i wella dealltwriaeth pobl o ymdeimladoldeb anifeiliaid a sut y mae'n berthnasol i ni yn ein bywydau bob dydd, yn enwedig gan fod cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi cyfle i athrawon roi gwybod i ddisgyblion ynglŷn ag empathi a thosturi? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n sicr yn rhannu eich pryder, ac mae'r ystadegau a gyflwynoch chi yn sicr yn peri pryder mawr. Yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth, cyfarfûm â'r cyn Weinidog addysg pan oedd hi'n edrych ar y cwricwlwm newydd i weld a oedd modd cynnwys rhywbeth yn y cwricwlwm yn y ffordd a awgrymwch. Roeddwn eisiau gweld hefyd a allem wneud mwy am berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes, am fy mod yn credu bod hynny'n bwysig iawn, gyda phlant a phobl ifanc. Fel y dywedwch, bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd hyn gyda'r Gweinidog addysg i weld a oes unrhyw beth pellach y gellir ei wneud.
Roedd yr RSPCA yn un o nifer o sefydliadau lles anifeiliaid a oedd yn dathlu pan gafodd Bil Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) Llywodraeth Geidwadol y DU ei gymeradwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 7 Ebrill. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i holl bolisïau Llywodraeth y DU gael eu craffu gan y pwyllgor newydd a ffurfiwyd ar ymdeimladoldeb anifeiliaid. Er ei bod yn amlwg bod Llywodraeth y DU unwaith eto'n arwain y ffordd ar gydnabod ymdeimladoldeb anifeiliaid mewn cyfraith, nid yw Llywodraeth Cymru yn sôn am y mater hwn yn eu cynllun lles anifeiliaid i Gymru nac unrhyw ddogfennau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn codi pryderon difrifol ymhlith sefydliadau fel RSPCA Cymru, sydd wedi dweud y gallai arwain at ddiffyg craffu ar les anifeiliaid yng Nghymru os na weithredir ar hyn. O ystyried hynny, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddilyn Llywodraeth y DU a sefydlu pwyllgor ymdeimladoldeb anifeiliaid i sicrhau na fydd diffyg craffu'n digwydd a bod anifeiliaid yng Nghymru yn cael eu diogelu yn yr un modd â'r rhai yn Lloegr? Diolch.
Yn sicr, rwy'n bwriadu gwneud mwy na dilyn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud neu wedi'i wneud. Credaf eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn—ei fod yn ymwneud â gweithredu. Os edrychwch ar y cynllun a gyflwynwyd gennym ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, fe welwch ei fod yn ymwneud yn llwyr â gweithredu. Nid oes diben cael strategaeth a deddfwriaeth, mae'n ymwneud â gweithredu'r rheini. Yn ein cynllun, fe welwch y pethau y byddwn yn eu cyflwyno yn ystod y pum mlynedd nesaf. Fe wnaethom ddilyn y Bil yn agos iawn, fel y gwnawn bob amser gydag unrhyw ddeddfwriaeth newydd a ddaw i mewn gan Lywodraeth y DU, ac yn amlwg, er nad oedd ei ddarpariaethau'n berthnasol i Gymru, credaf fod iechyd a lles anifeiliaid yn faes yr ydym wedi gweithio'n agos iawn arno gyda Llywodraeth y DU.