Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:37, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Mae ffigurau swyddogol ar laniadau fflyd Cymru yn awgrymu bod fflyd bysgota Cymru bellach ar drai peryglus o isel, ac os bydd y trywydd presennol yn parhau, mae mewn perygl o ddiflannu’n fuan. Yn gyffredinol, mae glaniadau cychod o Gymru wedi gostwng o uchafbwynt o 11,300 yn 2017 i bron i chwarter hynny, ychydig dros 3,000 y llynedd. Mae hwnnw'n ostyngiad enfawr o bron i 75 y cant yn nifer y cychod o Gymru sy'n cael eu glanio. Yn wir, o’i gymharu â glaniadau gwledydd eraill y DU, mae glaniadau fflyd Cymru ar gyfer pob rhywogaeth yn gyfran fach iawn o’r glaniadau yn yr Alban—dim ond 1 y cant o laniadau'r Alban. Rydym mewn perygl o golli sector sy’n bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd yng nghefn gwlad Cymru. Felly, mae angen cynllun clir arnom er mwyn sicrhau dyfodol hyfyw i’r diwydiant. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod gennym un ar hyn o bryd, heb sôn am gynllun sydd wedi'i gydgynhyrchu gyda'r diwydiant. Mae grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd wedi bod yn cael ei adolygu ers diwedd 2020. Ac er ein bod, o'ch ateb yn gynharach, yn deall ichi gael cyfarfod answyddogol yn ddiweddar, nid oes unrhyw ymgysylltiad ffurfiol â rhanddeiliaid pysgodfeydd wedi digwydd ers 11 Mawrth 2021, dros flwyddyn yn ôl. O ystyried bod y cyd-ddatganiad pysgodfeydd a datblygiad cynlluniau rheoli pysgodfeydd yn symud yn gyflym, pryd y disgwyliwch gyhoeddi manylion y strwythur ymgysylltu newydd a gwell yng Nghymru, a phryd y disgwyliwch i’r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal?