Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. Rwy’n cytuno yn llwyr â’r hyn yr ydych yn ei ddweud am y diwydiant pysgota yng Nghymru, a’n pryderon yn ei gylch, ac mae mor bwysig i’n cymunedau arfordirol. Dau gyfarfod ffurfiol a gynhaliais, a dweud y gwir. Mae'n ddrwg gennyf, nid atebais y cwestiwn am y cyfarfod ym mis Mawrth, ac nid oeddwn yn ymwybodol ei fod wedi'i ganslo—roeddwn yn meddwl bod swyddogion wedi cyfarfod. A bydd y cyfarfodydd hynny'n parhau, ac rwyf i fod i gwrdd â'r rhanddeiliaid eto—fis nesaf, rwy’n credu, sef mis Mai. Mewn perthynas â grŵp cynghori Cymru ar y môr a physgodfeydd, fel y dywedwch, manteisiais ar y cyfle—roedd yn dilyn diwedd cyfnod y cadeirydd blaenorol, a oedd wedi bod yn ei swydd ers tua 10 mlynedd rwy’n meddwl—i adolygu’r grŵp. A deuthum i'r casgliad fod angen inni symud at ddull gwahanol o weithredu, wrth symud ymlaen, a pheidio â disgwyl i un grŵp unigol wneud popeth yr oeddem yn ei ddisgwyl gan yr un grŵp hwnnw. Felly byddaf yn cyhoeddi'r hyn yr ydym yn mynd i'w wneud mewn perthynas ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyn diwedd y tymor yr ydym ynddo yn awr mae'n debyg, cyn yr haf.