Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch. Wel, fe sonioch chi am yr arian yn lle cyllid morol a physgodfeydd yn y dyfodol, ac mae’r cynigion ar gyfer pob un o’r pedair gwlad yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Ac mae swyddogion wedi dechrau ymgysylltu ymhellach â’n rhanddeiliaid i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gydgynhyrchu, gan gefnogi amryw o ymrwymiadau sydd gennym eisoes yn ein rhaglen lywodraethu newydd.
Bydd y buddsoddiad drwy gynllun newydd cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop yn cyfrannu at gynllun morol cenedlaethol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal ag egwyddorion ac ymrwymiadau’r cyd-ddatganiad pysgodfeydd, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, a chynlluniau rheoli pysgodfeydd. Dyrannodd adolygiad o wariant a chyllideb y DU £6.2 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i Lywodraeth Cymru ar gyfer y môr a physgodfeydd, a bydd hynny’n ein galluogi i wneud newid cadarnhaol iawn i’r sector hwnnw, gan weithio gyda’r rhanddeiliaid.