Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:40, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddom, mae'r sector yn hanfodol ar gyfer ein diogeledd bwyd. Fel y nodwyd gennym, mae ganddo botensial aruthrol. Fodd bynnag, fel sectorau eraill, mae'r sector hwn hefyd yn dioddef canlyniadau'r amryfal argyfyngau sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Mae'r fflyd bysgota yn gorfod gwneud llai o deithiau yr wythnos, neu'n gorfod canolbwyntio ar yr ardal yn agos at y lan gan fod yn rhaid iddynt osod offer pysgota yn rheolaidd yn y gobaith o ddal digon i dalu'r costau. Mae cost yr holl offer atodol hefyd wedi codi’n aruthrol—dur, rhaffau, rhwydi ac abwyd, er enghraifft. Mae costau ynni ar gyfer storio pysgod a physgod cregyn hefyd yn broblem sylweddol. Mae gwerthiannau uniongyrchol wedi'u heffeithio oherwydd goblygiadau costau byw cynyddol, sydd wedi arwain at fwytai'n canslo, neu ar y gorau, yn lleihau archebion sefydlog yn sylweddol. Mae costau pecynnu a chludiant hefyd yn effeithio ar y sector, gan na ellir trosglwyddo'r costau uwch hyn i'r cwsmer heb leihau galw cwsmeriaid ymhellach.

Mae’r UE yn gwneud darpariaethau gyda rhaglen cronfa’r môr, pysgodfeydd a dyframaethu Ewropeaidd i gefnogi fflyd bysgota’r UE, ynghyd â fframwaith argyfwng dros dro yr UE sy’n nodi pecyn llawer ehangach o gymorth ariannol i aelod-wladwriaethau. Mae disgwyl i Ogledd Iwerddon wneud datganiadau ar becyn cymorth ar gyfer fflyd bysgota Gogledd Iwerddon yn fuan, ac mae apêl ar y cyd, wedi’i chyd-lofnodi gan sefydliad pysgota cenedlaethol y DU, hefyd wedi’i gwneud i Weinidog pysgodfeydd y DU.

Felly, Weinidog, pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fflyd bysgota Cymru i sicrhau ei bod yn goroesi’r argyfwng presennol hwn?