Diwydiant Bwyd Môr Ynys Môn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:01, 27 Ebrill 2022

Diolch yn fawr iawn. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn am gyfarfod efo hi ers tro i drafod yr angen am fuddsoddi yn y sector bwyd môr yn Ynys Môn. Dwi'n falch, ers i fi gyflwyno'r cwestiwn yma, fod amser wedi cael ei gytuno arno fo inni gyfarfod, a dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y Gweinidog a'i swyddogion. Mae yna gyfleon lu, dwi yn gwbl glir ar hynny, i dyfu'r sector. Mae yna arbenigedd mawr mewn ffermio pysgod ar y tir yn Ynys Môn, er enghraifft trwy dechnoleg recirculatory aquaculture systems, ac mae yna botensial mawr i dyfu'r sector. Dwi eisiau trafod hynny. Dwi eisiau trafod cefnogi busnesau fel y gwerthwyr cimwch, The Lobster Pot, i gyrraedd marchnadoedd newydd, sut i godi'r diwydiant cregyn gleision yn ol ar ei draed, wrth gwrs, ar ôl cael ei chwalu gan Brexit. Ydy'r Gweinidog yn rhannu'r uchelgais yna sydd gen i i drio rhoi momentwm o'r newydd i'r sector yma yn Ynys Môn ac yng ngweddill Cymru, ac a all hi roi addewid i fi y gwnaiff hi ei wneud o'n fusnes iddi hi ei hun yn bersonol i drio gwthio am gynyddu'r momentwm yna?