Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 27 Ebrill 2022.
Gallaf, yn sicr, ac edrychaf ymlaen at glywed eich syniadau yn ein cyfarfod. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol, ond mae digwyddiad Seafood Expo Global yn cael ei gynnal yn Barcelona ar hyn o bryd, a gwn fod cynrychiolaeth dda iawn yno gan fusnesau Ynys Môn. Yn Dubai Expo 2020, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, unwaith eto, credaf fod cynrychiolaeth dda— yn sicr, cynrychiolaeth dda o'r sector bwyd môr yma yng Nghymru. Credaf fod un busnes o Ynys Môn wedi'i gynrychioli yno. Felly, mae'n dda iawn ein bod yn parhau i gefnogi busnesau i allu allforio, er yr holl heriau sy'n bodoli, ond yn sicr, bydd cryn ddiddordeb gennyf fi a fy swyddogion mewn clywed unrhyw syniadau.