Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, fe wnes i ymweld â banc bwyd yn fy rhanbarth sydd yn gynyddol yn derbyn ceisiadau gan unigolion a theuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi am fwyd i'w hanifeiliaid anwes. Fe wnaeth y rheolwr rannu gyda mi fod nifer yn meddwl cael gwared o'u hanifeiliaid anwes oherwydd eu bod yn pryderu na fedrant fforddio bwyd iddynt oherwydd yr argyfwng costau byw, na chwaith dalu costau milfeddyg. Fel y gwŷr unrhyw un gydag anifail anwes, maent yn aml yn cael eu hystyried gan eu perchnogion fel rhan annatod o'r teulu, ac, i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain, yn rhoddi cysur a chwmni amhrisiadwy. Sut mae Llywodraeth Cymru, felly, am sicrhau nad yw'r argyfwng costau byw yn effeithio ar les anifeiliaid? Dwi ddim yn credu bod digon yn cael ei wneud ar y funud.