3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch, Lywydd. A diolch am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn y prynhawn yma.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am eithrio staff ategol cartrefi gofal o daliadau bonws y gweithwyr cartrefi gofal a'r gweithwyr gofal cartref? TQ620
Diolch. Mae cynllun y taliadau ychwanegol yn cyd-fynd â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol. Mae'n dangos ein hymrwymiad i wella telerau ac amodau a strwythurau gyrfa gweithwyr gofal cofrestredig ymhellach. Mae staff ategol yn cyflawni rolau gwerthfawr iawn, ond nid ydynt yn weithwyr gofal cofrestredig, ac felly nid yw'r cynllun hwn yn berthnasol iddynt.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n falch o weld bod y BBC yn adrodd heddiw eich bod yn gwrthod rhoi'r bonws o £1,000 ar gyfer gweithwyr gofal i holl staff cartrefi gofal, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio fel glanhawyr ac yn y ceginau. Nid ar ein gofalwyr rhagorol yn unig y mae gofal o'r safon uchaf yn dibynnu. Heb lu o rolau ategol, bydd gofal yn dioddef. Ac mae'n ymdrech tîm—tîm sydd wedi bod drwy uffern yn ystod y pandemig hwn, ac sydd wedi dioddef straen y pandemig a phrinder staff. Mae eich penderfyniad i beidio â rhoi'r bonws hwnnw i staff ceginau, glanhawyr a gofalwyr cartrefi gofal yn wahaniaethol, fel pe na baent hwythau wedi mynd y tu hwnt i'r galw yn ystod y pandemig. Onid oedd gweithdrefnau glanhau a hylendid llym i'w dilyn? Onid oedd angen bwydo trigolion? A wnaeth y staff ategol roi'r gorau i weithio a mynd adref? Naddo. Mae'r staff yn credu bod hyn yn annheg. Rwyf innau'n credu ei fod yn annheg, fel pob un ohonom ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, Ddirprwy Weinidog, gyda hynny mewn golwg, a wnewch chi gytuno yn awr i ailystyried a thalu’r bonws hwn i’r holl staff sy’n gweithio yn ein sector gofal?
Diolch. Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn, y cwestiwn atodol. Darparodd cynlluniau yn 2020 a 2021 daliadau o £500 a £735 i ystod ehangach o weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys y gweithwyr gwerthfawr hynny y mae wedi’u crybwyll: y glanhawyr, y cogyddion, y garddwyr—pawb yn y system ofal. Roedd y taliadau hyn yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad eithriadol staff yn ystod cyfnodau gwaethaf y pandemig COVID-19, ac mae'n gwbl briodol fod staff ategol y cartrefi gofal wedi derbyn y ddau daliad hyn. Ac roedd hynny i gydnabod y perygl yr oeddent ynddo a'u bod wedi mynd y tu hwnt i'r galw, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r taliadau hynny iddynt.
Mae hwn yn hollol wahanol, y taliad ychwanegol newydd hwn. Mae'n cyd-fynd yn benodol, fel y dywedais, â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol o'r mis hwn—mae'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyflwyno y mis hwn—ac mae'n dangos ein hymrwymiad i wneud gwelliannau pellach i delerau ac amodau swyddi gofal cymdeithasol proffesiynol ac i ddatblygu strwythur gyrfa gwell, ac rydym yn parhau i weithio gyda fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i'r perwyl hwn. Gwyddom fod staff cegin, glanhawyr, cydlynwyr gweithgareddau, staff derbynfa, yn gwneud gwaith hynod werthfawr, ac maent yn sicrhau darpariaeth gofal o’r ansawdd uchaf. Ond nid oes angen iddynt ddarparu gofal personol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym yn ceisio datblygu gofal cymdeithasol fel proffesiwn, ac mae hyn yn gysylltiedig â'r cofrestriad hwnnw.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddod yma a rhoi'r ateb. Ond y gwir ydy bod yna sawl person wedi cysylltu efo fi ac eraill yma dros yr wythnosau diwethaf yn cwyno ac yn pryderu'n arw eu bod nhw wedi cael eu heithrio o'r bonws yma. Yn wir, maen nhw'n dweud bellach bod yna ddwy haen yn y gweithlu yn y cartrefi gofal a'u bod nhw, fel gweithwyr atodol, yn teimlo'n eilradd. Y gwir ydy bod yna—. Ar gyfer darparu gwasanaethau gofal effeithiol, mae hyn yn ganlyniad i ymdrech tîm cyfan, fel rydyn ni wedi'i glywed, o'r rheolwyr i'r darparwyr gofal, i'r gweithwyr gofal, i'r glanhawyr, i'r cogyddion ac i bawb arall sy'n rhan o'r broses yna o sicrhau bod ein hanwyliaid yn cael eu gofalu amdanyn nhw. Felly, mae'n gwbl anghywir bod y Llywodraeth yma wedi gwahaniaethu rhwng y gweithlu ac yn dangos diffyg gwerthfawrogiad a diffyg parch i'r criw yma sydd hefyd yn gweithio'n galed. Dwi'n deall eich dadl chi mai'ch bwriad chi ydy trio sicrhau bod y gweithwyr gofal yna'n cael eu cydnabod a'i fod yn dod yn waith cydnabyddedig fel bo pobl eisiau mynd i mewn i'r sector, a'ch bod chi eisiau cynyddu'r lefel gyflog, ond mae hynna hefyd yn wir am y gweithlu atodol. Maen nhw'n haeddu gwell cyflog, mae hwythau'n haeddu gwell amgylchiadau gwaith. Felly, gaf i alw arnoch chi eto, os gwelwch yn dda, i ailystyried hyn a sicrhau bod pob un sydd yn y sector yna yn derbyn y taliad bonws yma er mwyn dangos bod pawb yn cael eu gwerthfawrogi?
Diolch am eich cyfraniad. Hoffwn roi sicrwydd llwyr i chi nad oes diffyg parch at yr holl weithwyr ategol hynny yn y cartrefi gofal; rydym yn parchu'r hyn a wnânt yn llwyr ac rydym wedi cydnabod hynny drwy'r ddau daliad blaenorol a wnaed gennym. Ond fel y dywedais mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol, mae hyn wedi'i anelu'n benodol at weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig, ac nid yw'r grwpiau hynny o weithwyr yn perthyn i'r categori hwnnw. Rydym yn ceisio datblygu gofal cymdeithasol fel proffesiwn; rydym am i ofal cymdeithasol gael ei gydnabod mewn ffordd sy’n cydnabod y gwaith hynod bwysig a wnânt. Ac wrth gwrs, mae'r gweithwyr ategol eraill yn gwneud gwaith hynod bwysig, ond nid oes gofyn iddynt fod yn weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig. Felly, mae hyn wedi'i anelu'n benodol atynt hwy. Ac rwy'n falch fod yr Aelod yn deall rhesymeg yr hyn y ceisiwn ei ddweud, ond byddai'n gas gennyf i unrhyw un feddwl nad ydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr a wnaed gan yr holl weithwyr ategol eraill.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.