Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch am eich ymyriad, Tom, ac unwaith eto, rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod Fenis yn ei defnyddio i anghymell twristiaeth, ond dyna bwynt treth: mae'n ysgogiad i annog pobl naill ai i wneud rhywbeth a fydd yn gadarnhaol i'r gymuned neu i atal gweithgarwch negyddol. Dyna'r pwynt ynglŷn â threth, onid e? Gŵyr pob un ohonom mai dyna bwynt treth.
Ac os ydym am ddefnyddio enghreifftiau, gadewch inni ddefnyddio enghraifft Barcelona. Ni chredaf, mewn gwirionedd, fod llawer o bobl yn gwadu bod Barcelona gyda'r gorau yn y byd pan ddaw'n fater o ddatblygu polisi twristiaeth. Mae’r refeniw a godir drwy eu hardoll dwristiaeth yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned, gan wella'r profiad i dwristiaid yn rhinwedd y buddsoddiad hwnnw. Ers cyflwyno'r dreth hon, mae nifer y gwesteion mewn gwestai sydd wedi'u cofrestru yn Barcelona wedi bod yn cynyddu'n gyson.
Felly, mae’r ddadl hon y byddai ardoll yn drychineb i Gymru er ei bod yn gweithio mewn mannau eraill yn fy arwain i gredu nad yw pobl yn meddwl y gall Cymru gystadlu â’r cyrchfannau hyn, ein bod islaw'r safon rywsut. Nid mecanwaith i gosbi ydyw, ond yn hytrach, mae'n seiliedig ar y syniad o gynaliadwyedd a pharch rhwng yr ardal a'r ymwelydd. Credaf ei bod yn anodd dadlau yn erbyn codi tâl bychan ar ymwelwyr a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol ffynnu a chael eu gwarchod, ac yn caniatáu i dwristiaid barhau i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig am flynyddoedd i ddod.
A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yma, Ddirprwy Lywydd, yw nad oes ymgynghoriad wedi'i gynnal eto ar ardoll dwristiaeth, a bydd cyflwyno unrhyw ardoll yn benderfyniad i'r Senedd ei hun. Yn fy marn i, nid yw gwrthwynebiad y Torïaid i’r ardoll yn ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi ar fethiannau’r Canghellor ei hun i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch. Nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae busnesau yn y sector yn dweud hynny hefyd. Gadewch inni edrych ar TAW: fe'i gostyngwyd i 12.5 y cant yn ystod y pandemig ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth—a chafodd hynny ei groesawu'n fawr. Bellach, mae wedi saethu i fyny i 20 y cant. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a gwahardd y sector rhag defnyddio diesel coch, a ddefnyddir gan lawer mewn ardaloedd gwledig. Os ydych am helpu'r sector, yna lobïwch eich Canghellor ar y materion hyn gan mai dyna sy'n peri'r loes fwyaf i'r sector ar hyn o bryd. Dyna’r bygythiad mwyaf i’r sector yn awr, nid ardoll dwristiaeth.