5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:45, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak ac wedi gofyn iddo wrthdroi'r toriadau niweidiol. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ac ysgrifennu at Rishi Sunak hefyd i'w annog i wrthdroi'r toriadau hyn. 

Mae'r Torïaid yn gywir i ddweud bod twristiaeth yn sector pwysig, a'i fod angen ein cefnogaeth. Mae arnom angen sector cynaliadwy, un sydd o fudd i bob cymuned ac sy'n sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn cael ei gadw yn y cymunedau hynny. Bydd yr ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth yn helpu i'r perwyl hwn. Bydd y sector yn cael cyfle i rannu eu barn a sicrhau bod polisi newydd yn cael ei gynllunio o amgylch anghenion y sector yng Nghymru, polisi Cymreig wedi'i deilwra'n arbennig sy'n ymateb i anghenion Cymru. Os caiff ei wneud yn iawn a'i gydgynhyrchu gan y sector, fe allai ac fe ddylai ardoll dwristiaeth fod o fudd i'r sector a'n cymunedau. Felly, anwybyddwch gynnig y Torïaid a chefnogwch y gwelliant. Diolch.