5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 3:46, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n teimlo bod angen i mi gael fy ngwynt ataf ar ôl y cyfraniad hwnnw. Iawn. Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod gan Gymru dirwedd unigryw, hanes unigryw a diwylliant unigryw. Am flynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac yn ddiweddar dros wyliau'r Pasg, gwelodd pob un ohonom ymwelwyr yn cyrraedd Cymru i fwynhau ein mynyddoedd, ein cefn gwlad a'n traethau. Mae llawer yn dod i Gymru i ymweld â'n cestyll, ein tai hanesyddol, yn ogystal â'n gerddi a'n safleoedd treftadaeth ddiwydiannol. Maent yn dod i fwynhau ein diwylliant bywiog, ein gwyliau celfyddydol, ein gwyliau cerddorol a'n heisteddfodau.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru. Roedd 143,500 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn 2020, i lawr o 154,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae un o bob saith swydd yng Nghymru mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac mewn rhai rhannau o Gymru dyma brif gynheiliad yr economi. Byddai'n anghywir ystyried bod twristiaeth yn wasanaeth eilradd. Mae twristiaeth yn farchnad hynod gystadleuol sy'n galw am sgiliau, talent a menter. Cyn y pandemig, cyfrannai 6 y cant o'r holl werth ychwanegol gros, dros £3 biliwn i economi Cymru. O ystyried y ffigurau hyn, mae pwysigrwydd twristiaeth yn glir. Dylai fod yn glir hefyd, gydag asedau aruthrol Cymru, y dylai'r Llywodraeth flaenoriaethu'r potensial ar gyfer tyfu'r sector hwn o'r economi.

Ni all neb wadu bod y sector twristiaeth wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig, cyfyngiadau symud, cyfyngiadau ar deithio, a gwestai, lletygarwch ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu gorfodi i gau. Mae angen cymorth ac anogaeth ar y diwydiant i sicrhau ei adferiad a manteisio i'r eithaf ar y potensial enfawr ar gyfer twf sy'n dal i fodoli. Y peth diwethaf sydd ei angen arnynt yw bod Llywodraeth Cymru'n llesteirio eu hadferiad drwy roi rhwystrau yn eu ffordd. Yn hytrach na marchnata Cymru'n gadarnhaol ac annog mwy o ymwelwyr i ddod i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth niweidiol.

Ceir pryderon sylweddol o fewn y diwydiant ynghylch gweithredu treth o'r fath, ac mae llawer o gwestiynau o hyd. Tynnwyd sylw at y rhain gan y grŵp hollbleidiol seneddol ar letygarwch ym mis Mai 2019. Roeddent yn gofyn sut y byddai ardoll yn cael ei chodi'n effeithiol yn absenoldeb cofrestr gynhwysfawr o'r cyflenwad o lety. Aethant ati i dynnu sylw at y ffaith bod ymwelwyr undydd yn gwario llawer llai o gymharu ag ymwelwyr dros nos a gallai cost arall ar ystafelloedd gwestai gymell ymwelwyr i beidio ag aros dros nos. Byddai hyn yn ddrwg i'r diwydiant gwestai a gallai arwain at ostyngiad sylweddol yng ngwariant defnyddwyr mewn dinasoedd.

Hoffwn sôn am yr hyn a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, sef bod sector gwestai y DU eisoes ymhlith y rhai sy'n talu fwyaf o dreth o gymharu â gwledydd yn yr UE. Mae gan wledydd yn yr UE sydd â threth dwristiaeth gyfraddau TAW is, gyda'r Eidal a Ffrainc ar 10 y cant, yr Almaen ar 7 y cant, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ar 6 y cant. O'i gymharu, mae TAW ar y sector gwestai yma yn y DU yn 20 y cant. Hoffwn hefyd—[Torri ar draws.] Byddwn—[Anghlywadwy.]

Hoffwn hefyd i'r Gweinidog, wrth ymateb—yn fy rôl fel Gweinidog trafnidiaeth yr wrthblaid—ddiystyru cyflwyno taliadau atal tagfeydd yma yng Nghymru, gan fod hyn yn peri pryder imi, nid yn unig i ymwelwyr ond i drigolion Cymru sydd eisiau mynd â'u teulu am wyliau byr i ran arall o Gymru. Oherwydd nid yn unig y byddai taliadau atal tagfeydd yn gosod baich ar drigolion Cymru ond byddai'n ychwanegu baich ychwanegol ar dwristiaid sy'n dod i drefi a dinasoedd Cymru, ac yn y pen draw byddai'n niweidio'r gobaith am adferiad i fusnesau sy'n dibynnu ar dwristiaid i oroesi. 

Ddirprwy Lywydd, yn ddi-os, mae twristiaeth yn rhan allweddol o economi Cymru ac mae sicrhau ei bod mewn iechyd da yn hanfodol. Mae gennym gyfrifoldeb yma fel gwleidyddion yn y Senedd i gefnogi'r sector yma yn awr. Mae'n sector diwydiant a gafodd ei daro'n arbennig o wael gan y pandemig ac nid oes angen gosod rhwystrau diangen i'w adferiad. Galwaf ar Lywodraeth Cymru yma heddiw i gael gwared ar unrhyw gynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth a thaliadau atal tagfeydd, a mynd ati, yn hytrach, i lunio strategaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a fydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn ac yn caniatáu i'r sector hanfodol hwn o'n heconomi dyfu a ffynnu fel y mae'n haeddu ei wneud ar ôl dioddef cymaint yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.