5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 27 Ebrill 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:01, 27 Ebrill 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn ymyriad. Yn bendant—rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn y Siambr hon eisiau dathlu’r hyn sydd gennym i’w gynnig mewn perthynas â thwristiaeth. Mae’r gwahaniaeth yma rhwng dathlu, gwneud y gorau o, a chamfanteisio, ac mewn gwirionedd rwy’n croesawu’r gwahaniaethau a wnaed yn glir heddiw. Mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr ym mhob dim a ddywedoch chi yn awyddus iawn i weld twristiaeth fel rhywbeth i gamfanteisio ar Gymru. Mae fy mhlaid yn awyddus i gefnogi ein cymunedau lle mae twristiaeth yn digwydd, a chefnogi busnesau twristiaeth sydd am fod yn broffidiol ac yn gynaliadwy. A hoffwn wahodd yr Aelod i ystyried rhai o’r sylwadau heddiw sy’n ymddangos yn ddi-hid iawn ynghylch y cymunedau yr effeithir arnynt yn fawr gan y dwristiaeth sy’n digwydd yng Nghymru.