Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 27 Ebrill 2022.
Diolch . Fel y clywsom gan Mabon ap Gwynfor, mae’r argyfwng costau byw sydd ar hyn o bryd yn taro ein holl gymunedau yn uniongyrchol gysylltiedig â’r argyfwng tai difrifol yng Nghymru, gyda chanlyniadau dinistriol i’n pobl ifanc yn arbennig. Ac o'r sgyrsiau y mae pawb ohonom wedi bod yn eu cael wrth guro drysau dros yr wythnos ddiwethaf a thrwy ein gwaith achos, rwy'n siŵr eich bod chi wedi darganfod, fel finnau, mai un o'r prif ffyrdd y mae pobl wedi bod yn profi effaith yr argyfwng costau byw yw drwy’r codiadau enfawr yn eu biliau ynni a chanlyniadau methu fforddio talu’r biliau hynny.
Mae’r sgyrsiau gofidus ar garreg y drws ac e-byst pryderus gan etholwyr yn cael eu hadlewyrchu gan dystiolaeth yr asiantaethau sy’n ceisio helpu. Ym mis Mawrth, er enghraifft, helpodd Cyngor ar Bopeth fwy o bobl â phroblemau dyled tanwydd nag yn ystod unrhyw fis unigol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae chwyddiant uwch hefyd yn gwthio costau bob dydd i fyny. Yr wythnos hon, cyrhaeddodd chwyddiant prisiau bwyd ei gyfradd uchaf ers 11 mlynedd.
Mae’r camau cyfyngedig y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru’r effaith ar gyllidebau aelwydydd a dyled i’w groesawu, ond hyd yn oed ar ôl ystyried y cymorth sydd ar gael, bydd person sengl ar fudd-daliadau yn dal i wario chwarter ei lwfans safonol, sef cyfradd sylfaenol y credyd cynhwysol, ar filiau ynni. Wrth edrych tuag at fis Hydref, gallai unigolyn sengl ar fudd-daliadau wario rhwng 39 y cant a 47 y cant o'i lwfans safonol ar filiau ynni. Y diffiniad o dlodi tanwydd yw gwario mwy na 10 y cant o’ch incwm ar ynni. Felly, fe wyddom fod y cyfnod anodd yma eisoes ac yn wynebu gormod o aelwydydd yng Nghymru, ac mae’n mynd i fod yn anos eto. Mae’r sefyllfa yn Wcráin, gweithredoedd Putin a diffyg gweithredu Llywodraeth San Steffan i dargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn wael. A chyda rhenti a phrisiau tai yn codi, mae pobl yn gorfod dewis rhwng symud i eiddo lle mae rhenti’n anghynaliadwy o uchel, symud i eiddo cost isel o ansawdd gwael neu wynebu digartrefedd, a gwyddom fod digartrefedd yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau yn ein cymdeithas, gan waethygu ymhellach yr anghydraddoldebau y maent yn eu hwynebu.
Mae nifer anghymesur o uchel o bobl ifanc LHDTC+, er enghraifft, ymhlith y boblogaeth ddigartrefedd ehangach, maent yn fwy tebygol o adael llety sefydlog i ddianc rhag cam-drin emosiynol, meddyliol neu rywiol ac maent mewn mwy o berygl o niwed pan fyddant yn ddigartref na phobl nad ydynt yn LHDTC+. Er hynny, nid yw gwasanaethau cymorth a gynlluniwyd i ymateb i’w hanghenion penodol yn darparu'n ddigonol ar eu cyfer, ac yn ôl Stonewall Cymru, mae pobl LHDTC+ yn aml yn cael profiadau gwael o wasanaethau tai, gan gynnwys staff yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd neu heb wybodaeth ddigonol am y problemau y gallent fod yn eu hwynebu ym maes tai.
Canfu Ymddiriedolaeth Albert Kennedy fod 24 y cant o’r boblogaeth ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ledled y DU yn nodi eu bod yn LHDT. Mewn cyferbyniad, mae ystadegau’r ONS yn awgrymu mai dim ond 4.1 y cant o’r boblogaeth sy’n LHDT. Yng Nghymru, mae ystadegau ar gyfer 2017-18 yn dangos bod 9 y cant o’r bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau tai â chymorth Llamau yn galw eu hunain yn LHDT. Yn ogystal â’r darlun dirdynnol a baentiwyd gan yr ystadegau a grybwyllwyd eisoes, canfu adroddiad ‘Out on the Streets’ End Youth Homelessness Cymru fod pobl ifanc LHDTC+ bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na’u cyfoedion nad ydynt yn LHDTC+—bedair gwaith yn fwy tebygol.
Mae digartrefedd yn drawmatig ac yn heriol i unrhyw un, ond mae pobl ifanc LHDTC+ yn aml yn gorfod ymdopi â thrais a gwahaniaethu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig hefyd. O ganlyniad, maent yn wynebu mwy o risg o niwed seicolegol na phobl nad ydynt yn LHDTC+ ac yn fwy tebygol o ddatblygu problemau camddefnyddio sylweddau, o wynebu camfanteisio rhywiol, ac o gael mwy o anhawster i gael lloches ddiogel, aros yn yr ysgol, ennill cyflog a chael mynediad at gymorth cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Mae’n destun pryder fan lleiaf nad yw digartrefedd LHDTC+ yn cael ei grybwyll unwaith yn strategaeth ddigartrefedd Llywodraeth Cymru.
Lywydd, sut y gallwn beidio â gwneud popeth posibl i sicrhau bod y ffactorau sy’n arwain at ddigartrefedd, fel y cawsant eu hamlinellu y prynhawn yma, yn cael sylw brys gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru? Faint o adroddiadau, faint o ystadegau, faint o ymchwil sydd wedi’i rannu yn y lle hwn ac yn Nhŷ’r Cyffredin dros y blynyddoedd? Ond fe gymerodd ddigwyddiad unwaith mewn canrif—pandemig byd-eang—i weithredu go iawn ddigwydd er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd, gan brofi mai mater o ewyllys wleidyddol yn unig yw hyn mewn gwirionedd. Dylai tai yn gyntaf fod yn opsiwn diofyn ar gyfer unrhyw un ag anghenion cymhleth sy’n ddigartref, a dylai Llywodraeth Cymru benodi cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer polisi tai yn gyntaf i gyflawni hyn ledled Cymru.
Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Nid oes angen inni dderbyn y sefyllfa—yn wir, ni allwn wneud hynny heb wneud cam â’n pobl ifanc a'n pobl fwyaf agored i niwed.