Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 27 Ebrill 2022.
Hoffwn ddiolch i Plaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon cyn y tswnami a fydd yn ein taro yn y gaeaf o ganlyniad i argyfwng costau byw'r Torïaid—yr argyfwng costau byw a ddyfeisiwyd ac a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n cytuno â phopeth y mae Mike Hedges yn ei ddweud. Mae angen inni wneud rhywbeth ar fyrder i fynd i’r afael â chostau byw cartrefi—nid yn unig y rhent, ond hefyd y gwresogi, ac rwy’n siŵr y down yn ôl i drafod hynny eto.
Hoffwn ganolbwyntio ar fater y lwfans tai lleol, gan y credaf, er bod y gyfradd wedi’i gosod er mwyn i'r 30 y cant isaf o eiddo fod yr hyn a elwir yn fforddiadwy, yr hyn sy’n wir mewn gwirionedd yw bod llai na 4 y cant o eiddo'n fforddiadwy—4 y cant. Dychmygwch hynny ym mha le bynnag y mae eich etholaeth. Os mai 4 y cant yn unig o'r eiddo sydd ar gael i rywbeth fel 25 i 35 y cant o'r bobl sy'n byw yno, mae'n amlwg fod yna broblem enfawr. Ac mae hynny wedi'i amlygu'n dda iawn ar dudalen Llywodraeth Cymru ar y lwfans tai lleol. Mae’r cwestiynau cyffredin yn nodi, os yw’ch rhent yn uwch na chyfradd y lwfans tai lleol, y bydd yn rhaid ichi dalu’r gwahaniaeth, ac os na allwch fforddio talu, bydd angen ichi ddod o hyd i lety sydd o fewn cyfradd y lwfans. Syniad da, ond nid yw'r gyfradd honno ar gael.
Caerdydd sydd â’r lefelau rhent uchaf yng Nghymru o bell ffordd, ac mae cysylltiad rhwng hynny a'r ffaith mai fy etholaeth i sydd â’r nifer uchaf o fyfyrwyr yn y DU. Yn amlwg, mae bodolaeth y farchnad dai myfyrwyr yn annog landlordiaid i godi’r rhenti ar gyfer myfyrwyr, gan wybod (a) nad ydynt yn gymwys i gael y lwfans tai lleol, ond (b) am eu bod yn gorfod cael cymaint o ddyled beth bynnag o fod yn mynd i'r brifysgol, cânt eu hannog i dderbyn y sefyllfa. Anaml iawn y bydd myfyrwyr yn dod ataf i gwyno am gyflwr truenus y tai y mae'r landlordiaid hyn yn codi symiau anferth amdanynt.
I fynd yn ôl at y teuluoedd cyffredin nad ydynt yn fyfyrwyr ond sy'n gorfod chwilota o gwmpas i edrych am y 4 y cant o eiddo sydd ar gael ac sy'n fforddiadwy, roedd un o'r etholwyr y bûm yn ymwneud â hwy dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf—i fynd yn ôl at yr hyn a oedd gan Janet Finch-Saunders i'w ddweud—yn credu bod ganddynt eu cartref eu hunain. Roeddent wedi bod yn byw yno am y naw mlynedd diwethaf, teulu o bump. Nid yw'r landlord yn gwneud fawr ddim gwaith cynnal a chadw arno, ond roeddent wedi bod yn gwneud y gwaith eu hunain er mwyn osgoi cael eu troi allan am ofyn am i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud, neu fod eu teulu’n cael rhyw fath o ddamwain o ganlyniad i gyflwr yr adeilad.
Maent mewn eiddo rhad iawn ar hyn o bryd o ystyried safonau Caerdydd—eiddo tri llofft am £850. Ond mae hynny'n dal i olygu eu bod yn gorfod rhoi dros £75 y mis o'u harian eu hunain, o gyflog isel yr un unigolyn dan sylw, i sybsideiddio'r tŷ, ac mae hwnnw'n arian y maent i fod i'w ddefnyddio ar gyfer bwyd a chostau'r tŷ a chostau eraill. Mae’r teulu hwn, sydd wedi bod yn byw yn yr eiddo ers naw mlynedd, bellach ar fin bod yn ddigartref, gan fod y gorchymyn llys i’w troi allan eisoes wedi’i ganiatáu. Gallent gael eu hanfon i unrhyw le yng Nghaerdydd, ac yn y cyfamser, mae un o’r plant ym mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd, ac mae hi’n wynebu naill ai sawl milltir i gyrraedd yr ysgol neu orfod symud ar y cam hwyr hwn yn ei gyrfa ysgol. Mae hyn yn gwbl ddinistriol, a dyma un o’r prif resymau pam nad yw tai rhent preifat yn addas ar gyfer pobl â phlant, gan nad yw’n rhoi dim o’r sicrwydd sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud yn siŵr y gall eich plant barhau i fynd i'r un ysgol.
Ar wahân i hynny, mae lefelau’r diffyg tai yng Nghaerdydd yn wirioneddol ddinistriol. Ar gyfer tai dwy ystafell wely, mae’r diffyg yn y lwfans tai rhwng £100 a £350 y mis, gyda’r rhan fwyaf ohonynt ar y pen uchaf. Ar gyfer eiddo tair ystafell wely, fel y teulu rwyf newydd fod yn sôn wrthych amdano, bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl roi £1,100 i £1,400 o'u harian eu hunain. Dyma deulu lle rwy'n credu nad yw'r unigolyn dan sylw yn ennill cymaint â hynny o arian hyd yn oed—